
Cysylltedd drwy gydweithredu
£107.7m+
Tyfu a Mewnfuddsoddiad...Ein dyheadau ar gyfer y rhaglen yw...
- Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl.
- Rhanbarth SMART sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
- Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.
Yn ein rhanbarth...
-
Ffeibr llawn i Safleoedd y Sector Cyhoeddus Lleoedd Cysylltiedig
Mae ein gwaith Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn yn cael ei ddarparu trwy B\frosiect Cydgasglu Band Eang y Sector cyhoeddus, gan weithio gyda BT i gyflwyno band eang ffeibr llawn i 69 o safleoedd sector cyhoeddus.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain Lleoedd Cysylltiedig
Darparu ffeibr pwrpasol i 37 safle strategol yn Llanelli, Abertawe a Chastell-nedd. Cysylltu iechyd, awdurdodau lleol ac addysg â chysylltedd di-ben-draw, graddadwy i bob pwrpas am o leiaf y 25 mlynedd nesaf.
Parthau twf economaidd -
Ffeibr Tywyll Sir Gaerfyrddin Lleoedd Cysylltiedig
Darparu ffeibr pwrpasol i 32 o safleoedd strategol allweddol ledled Sir Gaerfyrddin. Cysylltu iechyd, awdurdodau lleol ac addysg â chysylltedd diderfyn a diogel sy'n gallu ehangu, am o leiaf y 25 mlynedd nesaf.
Sir Gaerfyrddin -
Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang Glwledig
Bydd y prosiect hwn yn dod â band eang ffeibr llawn i 1,533 o adeiladau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe sydd â band eang gwael ar hyn o bryd - gan wella cysylltedd yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Prosiectau Cynllun Talebau Gigadid Glwledig
Mae ein Hyrwyddwyr Digidol Awdurdod Lleol yn cefnogi nifer o gymunedau, wrth iddynt weithio gyda chyflenwr i ddod â gwell cysylltedd i'w cymuned gan ddefnyddio Cynllun Talebau Gigadid Llywodraeth y DU i ariannu'n rhannol y gwaith o adeiladu'r rhwydwaith.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Rhwydwaith Arloesi Digidol Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
240+ o byrth LoRaWAN ar draws y rhanbarth a fydd yn galluogi’r sector cyhoeddus a phartneriaid dethol i dreialu’r defnydd o dechnoleg y Rhyngrwyd Pethau (IoT). Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Rhaglen Seilwaith Digidol.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Cronfa Arloesi 5G Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Cyllid grant o hyd at £1.6 miliwn i dalu'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig ag adeiladu 5G a rhwydweithiau di-wifr uwch. Bydd y rhwydweithiau hyn yn galluogi prosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'u partneriaid i sefydlu meinciau arbrofi sy'n cyflwyno atebion uwch ac achosion defnydd.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
4G/5G: Asedau'r sector cyhoeddus Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Mae'r defnydd o asedau a thir y sector cyhoeddus yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyflwyno rhwydweithiau di-wifr uwch, gan gynnwys rhwydweithiau lletya niwtral, yn enwedig lle mae angen capasiti ychwanegol ar gyfer gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae galw mawr.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Rhwydwaith Gwledig a Rennir Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn cyflwyno signal ffonau symudol 4G i gymunedau gwledig. Menter ar y cyd gan weithredwyr rhwydwaith symudol a Llywodraeth y DU, mae ein Rheolwyr Cydberthnasau Seilwaith Digidol wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid.
Sir Gaerfyrddin Sir Benfro
Y Newyddion Diweddaraf
-
Dyfarnu contract ffeibr tywyll i ITS i roi hwb i gysylltedd ledled Sir Gaerfyrddin 17 Mehefin 2025
Mae contract ffeibr tywyll gwerth £3.5 miliwn wedi'i ddyfarnu i ITS, gweithredwr a darparwr atebion ffeibr llawn, fel rhan o Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i wella cysylltedd y sector cyhoeddus ar draws Sir Gaerfyrddin.
Lleoedd Cysylltiedig Sir Gaerfyrddin -
Gosod technoleg celloedd bach i fynd i'r afael â thagfeydd rhwydwaith symudol yng nghanol y ddinas 21 Mawrth 2025
Yn ddiweddar, cwblhaodd Cyngor Abertawe brosiect i osod technoleg celloedd bach a fydd yn darparu cysylltedd ffôn symudol mwy dibynadwy i bobl ar adegau prysur iawn yng nghanol dinas Abertawe.
Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf Abertawe -
Cysylltedd cwledig: Catalydd ar gyfer ffermio ffyniannus 12 Mawrth 2025
Bydd buddsoddiad mawr ar draws de-orllewin Cymru yn helpu i leihau'r rhaniad digidol rhwng ardaloedd trefol a gwledig gan roi hwb i amaethyddiaeth a chymunedau anghysbell.
Glwledig Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Netomnia yn dod â ffibr llawn i 50,000 o adeiladau yn Abertawe 05 Mawrth 2025
Mae Netomnia wedi sicrhau bod dros 50,000 o adeiladau yn barod ar gyfer gwasanaethau ar ei rwydwaith band eang cyflym yn Abertawe a Threfory.
Abertawe -
Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn gwella cysylltedd 4G 12 Chwefror 2025
Mae signal ffonau symudol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi gweld gwelliannau sylweddol, a hynny oherwydd y fenter Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN).
Glwledig Sir Gaerfyrddin Sir Benfro -
2024 - Blwyddyn o bartneriaethau newydd 30 Rhagfyr 2024
Wrth i ni edrych yn ôl ar 2024, mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cymryd camau rhyfeddol, diolch i ymroddiad diwyro ein tîm a'n partneriaid.
-
Partneriaeth Voneus newydd i wella cysylltedd gwledig 20 Rhagfyr 2024
Cyngor Sir Caerfyrddin a phartner Voneus i Wella Cysylltedd Gwledig Caerfyrddin.
Glwledig Sir Gaerfyrddin -
Cwblhau 50% o waith adeiladu seilwaith ffeibr llawn rhanbarthol 19 Rhagfyr 2024
Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cyrraedd carreg filltir drwy gwblhau 50% o'r gwaith i uwchraddio safleoedd sector cyhoeddus allweddol gyda chysylltedd ffeibr llawn sydd wedi'i ddiogelu i'r dyfodol.
Lleoedd Cysylltiedig Dinas-ranbarth Bae Abertawe
Ein partneriaid
Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu'n ffurfiol rhwng pedwar awdurdod lleol - Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, dau fwrdd iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a dwy brifysgol - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.
Mae seilwaith digidol yn thema drawsbynciol drwy holl brosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'n hanfodol o ran cyflawni strategaethau trawsnewid digidol ein partner, twf economaidd ein rhanbarth a gwella cynhwysiant cymdeithasol.
Rydym yn credu'n gryf y gallwn ond cyflawni dyheadau ein rhaglen drwy weithio ar y cyd â diwydiant, y llywodraeth, a'n partneriaid. Rhannu'r llwyddiannau a'r heriau, defnyddio data i wneud penderfyniadau a bod yn ystwyth yn ein dull o weithredu.