Cysylltedd drwy gydweithredu
Ein dyheadau ar gyfer y rhaglen yw...
- Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl.
- Rhanbarth SMART sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
- Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.
Yn ein rhanbarth...
-
Ffeibr llawn i Safleoedd y Sector Cyhoeddus Lleoedd Cysylltiedig
Mae ein gwaith Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn yn cael ei ddarparu trwy B\frosiect Cydgasglu Band Eang y Sector cyhoeddus, gan weithio gyda BT i gyflwyno band eang ffeibr llawn i 69 o safleoedd sector cyhoeddus.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain Lleoedd Cysylltiedig
Darparu ffeibr pwrpasol i 34 safle strategol yn Llanelli, Abertawe a Chastell-nedd. Cysylltu iechyd, awdurdodau lleol ac addysg â chysylltedd di-ben-draw, graddadwy i bob pwrpas am o leiaf y 25 mlynedd nesaf.
Parthau twf economaidd -
Prosiectau Cynllun Talebau Gigadid Glwledig
Mae ein Hyrwyddwyr Digidol Awdurdod Lleol yn cefnogi nifer o gymunedau, wrth iddynt weithio gyda chyflenwr i ddod â gwell cysylltedd i'w cymuned gan ddefnyddio Cynllun Talebau Gigadid Llywodraeth y DU i ariannu'n rhannol y gwaith o adeiladu'r rhwydwaith.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Rhwydwaith Arloesi Digidol Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
240+ o byrth LoRaWAN ar draws y rhanbarth a fydd yn galluogi’r sector cyhoeddus a phartneriaid dethol i dreialu’r defnydd o dechnoleg y Rhyngrwyd Pethau (IoT). Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Rhaglen Seilwaith Digidol.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Cronfa Arloesi 5G Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Cyllid grant o hyd at £1.6 miliwn i dalu'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig ag adeiladu 5G a rhwydweithiau di-wifr uwch. Bydd y rhwydweithiau hyn yn galluogi prosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'u partneriaid i sefydlu meinciau arbrofi sy'n cyflwyno atebion uwch ac achosion defnydd.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
4G/5G: Asedau'r sector cyhoeddus Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Mae'r defnydd o asedau a thir y sector cyhoeddus yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyflwyno rhwydweithiau di-wifr uwch, gan gynnwys rhwydweithiau lletya niwtral, yn enwedig lle mae angen capasiti ychwanegol ar gyfer gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae galw mawr.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Rhwydwaith Gwledig a Rennir Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn cyflwyno signal ffonau symudol 4G i gymunedau gwledig. Menter ar y cyd gan weithredwyr rhwydwaith symudol a Llywodraeth y DU, mae ein Rheolwyr Cydberthnasau Seilwaith Digidol wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid.
Sir Gaerfyrddin Sir Benfro
Y Newyddion Diweddaraf
-
Partneriaeth Voneus newydd i wella cysylltedd gwledig 20 Rhagfyr 2024
Cyngor Sir Caerfyrddin a phartner Voneus i Wella Cysylltedd Gwledig Caerfyrddin.
Glwledig Sir Gaerfyrddin -
Cwblhau 50% o waith adeiladu seilwaith ffeibr llawn rhanbarthol 19 Rhagfyr 2024
Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cyrraedd carreg filltir drwy gwblhau 50% o'r gwaith i uwchraddio safleoedd sector cyhoeddus allweddol gyda chysylltedd ffeibr llawn sydd wedi'i ddiogelu i'r dyfodol.
Lleoedd Cysylltiedig Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Starbws - Datrysiadau cysylltedd trafnidiaeth wledig 19 Rhagfyr 2024
Mae'r prosiect StarBws, sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyntaf o'i fath yn fyd-eang ar wasanaeth bws lleol, yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.
Glwledig Sir Gaerfyrddin Sir Benfro -
Esboniad o’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir 12 Tachwedd 2024
Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) yn fenter gydweithredol rhwng gweithredwyr y rhwydwaith symudol, eu partneriaid a Llywodraeth y DU.
Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf Dinas-ranbarth Bae Abertawe -
Gweithio gyda'n Gilydd i gael Well Band Eang 11 Hydref 2024
Mae pobl leol yn Dale, Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus yn defnyddio cynllun talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU i gysylltu'r pentref â'r rhyngrwyd cyflym iawn.
Glwledig Sir Benfro -
Sir Gaerfyrddin yn dathlu carreg filltir drwy gyrraedd cysylltedd gigabit o 60% 19 Medi 2024
Mae gan fwy na hanner y sir well band eang bellach ac mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn anelu at gynyddu hynny ymhellach.
Glwledig Sir Gaerfyrddin -
Rhwydwaith Fiber Tywyll wedi'i Gytuno ar gyfer Abertawe 27 Awst 2024
Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dyfarnu contract rhwydwaith ffeibr tywyll o'r radd flaenaf i Virgin Media O2 Business
Lleoedd Cysylltiedig Abertawe -
Cyrraedd y rownd derfynol yn Connected Britain 2024 14 Awst 2024
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dileu Rhwystrau yn Connected Britain 2024.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
Ein partneriaid
Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu'n ffurfiol rhwng pedwar awdurdod lleol - Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, dau fwrdd iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a dwy brifysgol - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.
Mae seilwaith digidol yn thema drawsbynciol drwy holl brosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'n hanfodol o ran cyflawni strategaethau trawsnewid digidol ein partner, twf economaidd ein rhanbarth a gwella cynhwysiant cymdeithasol.
Rydym yn credu'n gryf y gallwn ond cyflawni dyheadau ein rhaglen drwy weithio ar y cyd â diwydiant, y llywodraeth, a'n partneriaid. Rhannu'r llwyddiannau a'r heriau, defnyddio data i wneud penderfyniadau a bod yn ystwyth yn ein dull o weithredu.