Cynhaliwyd y digwyddiad yn stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli, yn ogystal â chael ei ffrydio'n fyw ar-lein, gan ddwyn ynghyd arweinwyr y diwydiant, llunwyr polisi a rhanddeiliaid i drafod y datblygiadau sydd ar waith ym maes cysylltedd digidol ac arloesedd, ynghyd â'r heriau a’r cyfleoedd niferus sy'n bosibl drwy gael gwell cysylltedd.

Yn ogystal â'r trafodaethau craff niferus trwy gydol y dydd, rhoddwyd trosolwg cynhwysfawr o'r rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno'n llawn ar draws y tair ffrwd waith, gan dynnu sylw at ei rôl hanfodol wrth yrru twf economaidd a chynhwysiant cymdeithasol ar draws y rhanbarth.

Bu arbenigwyr yn trafod pynciau fel cyflwyno 5G, cysylltedd gwledig, ac integreiddio technolegau Rhyngrwyd Pethau, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ac atebion ymarferol i gryfhau ecosystem ddigidol y rhanbarth ymhellach.

Dywedodd Rhys Jones o Arwain DGC:

Mae bod yn rhan o'r digwyddiad hwn wedi bod yn bwysig ar gyfer cael mewnwelediadau i'r heriau sy'n wynebu gwelliannau mewn cysylltedd rhwydwaith ar draws y rhanbarth hwn. Yn ogystal, mae'r 'edau euraidd' a fynegwyd gan bawb a gymerodd ran yn arwydd o'r dull rhagweithiol a gymerir gan y Rhaglen Seilwaith Digidol, sef cydweithio er mwyn llwyddo. Yn bersonol, roedd gallu rhannu a thrafod lefelau arloesedd ar ffermydd Cymru, gobeithio, wedi ysbrydoli pawb yn ystafell y gynhadledd ac ar-lein.
Rhys Jones, Arwain DGC

Rhannodd ffigurau amlwg o'r sectorau digidol a thechnoleg eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan bwysleisio pwysigrwydd seilwaith digidol cadarn wrth feithrin arloesedd a chystadleugarwch.

Dywedodd Richard Williams, Pennaeth Caffael gyda Ontix:

Rydym yn gwybod bod cysylltedd digidol wedi newid ein byd yn sylfaenol am byth, ond er mwyn sicrhau ein bod yn gallu manteisio i’r eithaf ar ei botensial i wella bywydau pobl go iawn, mae angen creadigrwydd, meddwl gweledigaethol ac arweinyddiaeth gref. Mae’r gwaith gwych y mae rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn ei wneud i gofleidio a rhyddhau’r cyfleoedd a ddaw gyda gwell cysylltedd i Dde-orllewin Cymru yn dangos yr holl rinweddau hynny, ac mae Ontix yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â chydweithwyr i helpu i ddarparu cysylltedd 4G a 5G gwell ar draws yr ardal.
Richard Williams, Ontix

Daw llwyddiant y rhaglen o ganlyniad i’r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, partneriaid diwydiant, a'r gymuned i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu tirwedd ddigidol glyfar, gynhwysol ac arloesol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Mae llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn tanlinellu rôl hollbwysig seilwaith digidol yn ein dyfodol, ac fel rhanbarth rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn elwa o’r datblygiadau hyn. Nid technoleg yn unig yw’r rhaglen seilwaith digidol – mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd a gwella bywydau. Amlygodd y digwyddiad y cynnydd anhygoel rydym wedi’i wneud hyd yma, yn ogystal â’r gwaith cydweithredol parhaus sydd ei angen i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyffrous sydd o’n blaenau.
Cynghorydd Rob Stewart, Cynghor Abertawe