Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Diwrnod Darganfod Digidol

Archwilio. Dysgu. Cysylltu.

Ymunwch â ni ar gyfer sioe deithiol Diwrnod Darganfod Digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe — digwyddiad hwyliog, rhyngweithiol ac addysgiadol sy'n dangos sut mae technoleg ddigidol, gwell cysylltedd a chyfleoedd newydd yn trawsnewid bywyd ar draws ein cymunedau.


Mae croeso i bob preswylydd a busnes yn Sir Gâr fynychu'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn. P'un a ydych chi'n defnyddio gwasanaethau digidol bob dydd neu ddim o gwbl, y digwyddiad hwn yw eich cyfle i wybod beth sy'n bosibl a pha gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i gysylltu'n well.


Dydd Sadwrn 13 Mehefin 2026 - 10am - 3pm
Pentre Awel, Llanelli
Digwyddiad am ddim sy'n agored i bawb.

Beth i'w Ddisgwyl

  • Cynhwysiant Digidol
    Dylai digidol weithio i bawb! Dewch i ddarganfod y sgiliau, yr hyder a'r gefnogaeth sy'n gwneud bywyd ar-lein yn symlach.
  • Cysylltedd
    Darganfyddwch sut y gall band eang gwell, atebion newydd a chyllid sydd ar gael eich helpu i gysylltu, ble bynnag rydych chi'n byw.
  • Arloesi
    Archwiliwch offer digidol ymarferol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg sy'n gwneud bywyd bob dydd yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon.

Pwy fydd yno?

  • Llesiant Delta
  • Busnes ac Arloesi BT
  • Openreach
  • CWMPAS
  • Blueprint Wales
  • Age Cymru Dyfed
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - HWB
  • Ofcom
  • Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
  • Coleg Sir Gâr
  • CETMA
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Hamdden Actif

Amserlen Siaradwyr ac Arddangosiadau

  • Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn archwilio bygythiadau seiber a bygythiadau ar-lein cyfredol sy’n effeithio ar gymunedau a sefydliadau lleol, yn datgelu’r dulliau a’r tactegau a ddefnyddir gan droseddwyr, ac yn darparu cyngor ymarferol i’ch helpu i ddiogelu’ch teuluoedd a’ch sefydliadau.

  • Llesiant Delta Wellbeing yw Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy’n darparu gwasanaethau monitro, ymateb a llesiant 24/7 i helpu pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol gartref.

    Mae Delta Direct yn defnyddio atebion TEC syml ac effeithiol, megis llinynnau bywyd, larymau personol a synwyryddion cwympo, ynghyd â gwasanaeth ymateb wyneb yn wyneb a galwadau llesiant rhagweithiol i ddarparu tawelwch meddwl, ymyrraeth gynnar a chymorth parhaus, gan helpu pobl i aros yn gysylltiedig ac yn hyderus yn eu cartrefi eu hunain, ac wrth fod tu allan.

  • Mae’r rhaglen AI: Gwella, Nid Disodli yn cefnogi pobl i feithrin hyder wrth ddefnyddio AI i gefnogi dysgu ac ymarfer proffesiynol. Mae’n canolbwyntio ar ddefnyddiau moesegol, ymarferol a chreadigol o AI, gan ddangos sut y gall technoleg arbed amser, gwella dysgu ac ysgogi syniadau newydd, tra’n atgyfnerthu bod barn ac arbenigedd dynol yn parhau’n ganolog.

  • Mae’r cyflwyniad hwn yn archwilio sut y gall creu botiau AI syml gyda phlant annog chwilfrydedd, creadigrwydd a datrys problemau. Mae’n tynnu sylw at ddysgu drwy chwarae, sgyrsiau am dechnoleg ym mywyd bob dydd, a sut y gall arbrofi ymarferol gydag AI helpu pobl ifanc i feithrin hyder, meddwl beirniadol a dealltwriaeth ystyriol o offer digidol.

  • Iechyd digidol

  • Defnyddio offer EGYM a thechnoleg ddigidol ar gyfer ffitrwydd ac iechyd

  • Darganfyddwch sut y gall Cynhwysiant Digidol Cymru gefnogi sefydliadau o unrhyw sector i wella cynhwysiant digidol i gydweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid, gan alinio â’r Safon Byw Ddigidol Isaf a dod yn rhan o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Ymunwch â ni i gael gwybod sut y gall offer digidol wneud bywyd bob dydd yn haws. Mae rhagor o ddiweddariadau ar y ffordd cadwch lygad. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: bandeang@sirgar.gov.uk

Rydym yn defnyddio cwcis I wella eich profiad, personoleiddio cynnwys, a dadansoddi traffig gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.