Ymunwch â ni ar gyfer sioe deithiol Diwrnod Darganfod Digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe — digwyddiad hwyliog, rhyngweithiol ac addysgiadol sy'n dangos sut mae technoleg ddigidol, gwell cysylltedd a chyfleoedd newydd yn trawsnewid bywyd ar draws ein cymunedau.
Mae croeso i bob preswylydd a busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot fynychu'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn. P'un a ydych chi'n defnyddio gwasanaethau digidol bob dydd neu ddim o gwbl, y digwyddiad hwn yw eich cyfle i wybod beth sy'n bosibl a pha gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i gysylltu'n well.
Dydd Sadwrn 27 Mehefin 2026 - 10am - 3pm
Neuadd Gwyn, Castell-nedd
Digwyddiad am ddim sy'n agored i bawb.
Beth i'w ddisgwyl
-
Cynhwysiant DigidolDylai digidol weithio i bawb! Dewch i ddarganfod y sgiliau, yr hyder a'r gefnogaeth sy'n gwneud bywyd ar-lein yn symlach. -
CysyllteddDarganfyddwch sut y gall band eang gwell, atebion newydd a chyllid sydd ar gael eich helpu i gysylltu, ble bynnag rydych chi'n byw. -
ArloesiArchwiliwch offer digidol ymarferol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg sy'n gwneud bywyd bob dydd yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon.
Pwy fydd yno?
- Busnes ac Arloesi BT
- Openreach
- CWMPAS
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Gofal trwy Gymorth
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Gwasanaethau Llyfrgelloedd
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Cynhwysiant Digidol a Dysgu Oedolion
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cartrefi yn Orsafoedd Pwer
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Abertawe
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Gwasanaethau Digidol
- Coleg Castell-nedd Port Talbot
- Celtic Leisure
- Tai Tarian
Amserlen Siaradwyr ac Arddangosiadau
-
10.30 - 11.00 Heddlu De Cymru
Ymunwch â ni am sesiwn ddifyr ac addysgiadol ar sut mae twyllwyr yn cael mynediad at ddata personol ac yn ei ddefnyddio i greu sgamiau cynyddol soffistigedig. Dysgwch sut mae troseddwyr yn teilwra eu dulliau i wahanol gynulleidfaoedd, archwiliwch fathau cyffredin o dwyll gan gynnwys twyll bancio, siopa ar-lein, perthynas ac buddsoddi ac adnabod yr arwyddion i gadw llygad amdanynt. Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael cyngor ymarferol i’ch helpu i amddiffyn eich hun a phobl eraill, ynghyd ag adnoddau i’w cymryd adref sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol a manylion cyswllt allweddol ar gyfer riportio pryderon neu gael cymorth.
-
11.00 - 11.30 Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd
Mae Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd wedi ailagor o’r diwedd ar ôl saith mlynedd o adfer ac adfywio. Gyda chyllid o £22,000 ar gyfer adnewyddu’r gofod i fyny’r grisiau a £15,750 ar gyfer offer digidol gyda darpariaeth WiFi hirdymor, bydd y Clwb yn rhannu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer y bobl ifanc a fydd yn ei siapio.
-
11.30 - 12.00 Bargen Ddinesig Bae Abertawe Rhaglen Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
Trosolwg o’r rhaglen Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a’r cynnydd tuag at 10,300 o gartrefi yn cael technoleg adnewyddadwy. Clywch sut mae technoleg fel paneli solar, storio batri a phympiau gwres yn creu cartrefi glanach, mwy gwyrdd a mwy effeithlon o ran ynni o fewn Rhanbarth Bae Abertawe.
-
12.00 - 12.30 CWMPAS
Trosolwg ar sut y gall Cynhwysiant Digidol Cymru gefnogi sefydliadau o unrhyw sector i wella cynhwysiant digidol i gydweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid, gan alinio â'r Isafswm Safon Byw'n Ddigidol ac ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.
-
12.30 - 13.00 Coleg Castell-nedd Port Talbot
Darganfyddwch sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI) ac argraffu 3D weithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau cartref go iawn—o ddylunio atebion wedi’u teilwra i greu gwrthrychau defnyddiol, personol. Dysgwch sut i symud o syniad i ateb corfforol yn gyflym ac yn greadigol, gan ddefnyddio offer hygyrch y gallwch ddechrau eu defnyddio ar unwaith.
-
13.30 - 14.00 Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Gofal trwy GymorthDarganfyddwch sut mae Galluogi Digidol a Gofal a Alluogir gan Dechnoleg yn defnyddio Systemau Cymorth (Lifelines), synwyryddion, a thechnolegau clyfar i gefnogi byw’n fwy diogel ac annibynnol i chi a’ch anwyliaid.
-
13.00 - 13.30 IoT (Rhyngrwyd Pethau)
Esbonio'r Rhyngrwyd Pethau a sut mae eisoes yn helpu'ch cymuned.
Ymunwch â ni i gael gwybod sut y gall offer digidol wneud bywyd bob dydd yn haws. Mae rhagor o ddiweddariadau ar y ffordd cadwch lygad. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: bandeang@npt.gov.uk