Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

YMCA Castell-nedd

Band eang cymunedol am ddim

Mae YMCA Castell-nedd yn fan cymunedol wedi'i hen sefydlu, sy'n cynnig ystod eang o gymorth i breswylwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot. Mae eu gwasanaethau'n helpu pobl sy'n wynebu heriau o ran tlodi, unigrwydd a llesiant cyffredinol, ac mae llawer o'r rhai sy'n ymweld â'r ganolfan heb fynediad digidol oherwydd pwysau ariannol, diffyg profiad neu hyder isel ar-lein.

Mae Virgin Media O2 wedi rhoi band eang cyflym am ddim am gyfnod o bum mlynedd, sy'n golygu y bydd y sefydliad yn gallu datblygu a gwella'r cymorth digidol ym mhob rhan o'r adeilad.

Bydd y cysylltiad gwell hwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael help gyda thasgau dyddiol ar-lein gan gynnwys hawlio budd-daliadau, apwyntiadau iechyd, ymholiadau am dai, chwilio am swyddi ac anfon negeseuon e-bost. Bydd cymorth digidol hefyd yn rhan o weithgareddau presennol y ganolfan megis sesiynau bwyd a llesiant, grwpiau i oedolion hŷn a dysgu digidol wedi'i hwyluso gan wirfoddolwyr, gan sicrhau bod cymorth wrth law pan fydd ei angen.
Bydd y band eang dibynadwy hefyd yn helpu'r sefydliad i weithredu'n fwy effeithlon, gan symleiddio prosesau fel atgyfeiriadau ar-lein, adrodd a chyfathrebu mewnol.

Mae lleoliad canolog ac amgylchedd cyfeillgar YMCA Castell-nedd yn golygu ei fod eisoes yn fan cyfarfod rheolaidd i deuluoedd, preswylwyr hŷn, pobl ar incwm isel a'r rhai o gefndiroedd ymylol. Trwy integreiddio mynediad digidol am ddim i'w cynnig bob dydd, gall y ganolfan ei gwneud hi'n haws i bobl ofyn am help mewn lleoliad hamddenol, cefnogol.
Jessica Kennedy, Neath YMCA
Pobl yn YMCA Castell-nedd

Er mwyn deall effaith y cysylltedd newydd hwn, bydd yr hwb yn casglu gwybodaeth gan gynnwys faint o bobl sy'n dod i sesiynau, oriau cymorth digidol, logiau gan staff a gwirfoddolwyr, ac adborth gan y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Bydd hyn yn helpu i ddangos sut mae'r mynediad gwell yn gwneud gwahaniaeth dros amser.

I gael rhagor o wybodaeth am YMCA Castell-nedd, ewch i'r wefan.

Gwerth cymdeithasol mewn partneriaeth â

Rydym yn defnyddio cwcis I wella eich profiad, personoleiddio cynnwys, a dadansoddi traffig gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.