Mae Abertawe wedi cymryd cam arall tuag at ddod yn ddinas flaenllaw sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol, ar ôl cwblhau uwchraddiad mawr i fand eang.
Wedi'i gyflwyno gan Virgin Media O2 mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, mae'r gwaith - a wnaed rhwng Mehefin 2025 a Mai 2026 - yn cefnogi nodau Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe drwy gryfhau rhwydwaith digidol y ddinas a helpu i baratoi Abertawe ar gyfer twf yn y dyfodol.
Yn hytrach na disodli rhwydwaith band eang presennol Abertawe, fe wnaeth Virgin Media O2 ei uwchraddio a'i wella wrth osod cysylltiadau ffeibr llawn newydd ochr yn ochr ag ef.
Roedd hyn yn golygu y gallai preswylwyr a busnesau barhau i ddefnyddio eu gwasanaethau heb fawr o aflonyddwch tra bod y dechnoleg newydd yn cael ei chyflwyno.
Mae'r rhwydwaith wedi'i uwchraddio eisoes yn cefnogi cyflymderau band eang cyflym iawn o hyd at 1Gbps ac mae'n gallu darparu cyflymderau lanlwytho a lawrlwytho hyd at 10Gbps yn y dyfodol.
Bydd hyn yn helpu i ateb y galw cynyddol am wasanaethau digidol a chefnogi ffyrdd newydd o weithio, gofal iechyd digidol, technoleg glyfar a busnesau arloesol.
Rhan allweddol o lwyddiant y prosiect oedd y berthynas waith agos rhwng Virgin Media O2 gyda thîm Gwaith Stryd Cyngor Abertawe a'i hyrwyddwyr digidol lleol.
Fe wnaeth cynllunio gofalus a chydlynu agos helpu i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn gyfrifol, gan achosi cyn lleied o darfu â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
Mae band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i ddyfodol Abertawe. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu preswylwyr a busnesau i gadw mewn cysylltiad a chefnogi cyfleoedd newydd ar gyfer twf, arloesi a gwasanaethau gwell. Drwy fuddsoddi yn seilwaith digidol y ddinas, rydym yn helpu Abertawe i ddenu buddsoddiad ac adeiladu economi gryfach a mwy cynhwysol.Cynghorydd Rob Stewart, Cyngor Abertawe
Dywedodd Matt Tully, Cyfarwyddwr Peirianneg Mynediad Sefydlog yn Virgin Media O2:
Mae'r uwchraddiad hwn yn garreg filltir bwysig i Abertawe ac yn enghraifft arall o'n buddsoddiad parhaus yn seilwaith digidol y DU. “Mae ein buddsoddiad mewn technoleg ffeibr llawn yn golygu y gall preswylwyr a busnesau elwa ar gysylltedd cyflymach, mwy dibynadwy nawr ac yn y dyfodol. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe drwy gydol y prosiect a hoffem ddiolch i bawb am ein helpu i gyflawni'r uwchraddiadau hyn mor esmwyth â phosibl. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n helpu i adeiladu'r sylfeini digidol a fydd yn cefnogi twf a ffyniant Abertawe am y blynyddoedd i ddod.Matt Tully, Virgin Media O2
I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd band eang yn eich ardal, cysylltwch â'ch hyrwyddwr digidol