Mae'r Gronfa Arloesi 5G yn helpu i gyflwyno'r dechnoleg ddi-wifr arloesol i'r stadiwm, gan olygu y bydd y stadiwm ymhlith y mwyaf datblygedig yn dechnolegol yn y DU. Diolch i'r gefnogaeth hon, bydd ailddatblygiad San Helen yn cynnwys cysylltedd y genhedlaeth nesaf a chyfleusterau arloesol, gan greu profiad gwell i gefnogwyr, timau a'r gymuned ehangach.
Trwy'r datrysiad Rhwydwaith Preifat Symudol (MPN) Annibynnol 5G Vodafone, bydd y stadiwm 5G yn darparu cyflymderau rhwydwaith cyflym iawn ar draws y lleoliad, gan alluogi ffrydio fideo HD amser real gwell ar gyfer darlledu, ystadegau byw, profiadau ymgolli i gefnogwyr a chynnwys ar ddiwrnod gêm.
Bydd y dechnoleg hefyd yn galluogi gwelliannau pellach yn ystod camau datblygu yn y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno profiad parth clyfar sy'n cynnwys cyfeirio digidol, a mynediad ar unwaith i ailchwarae byw ar ddyfeisiau symudol.
I athletwyr, bydd y rhwydwaith 5G yn galluogi systemau synhwyrydd Rhyngrwyd Pethau (IoT) sy'n monitro perfformiad a metrigau iechyd fel curiad y galon, symudiad ac adferiad, gan gefnogi gwyddor chwaraeon sy'n seiliedig ar ddata mewn cydweithrediad â phartneriaid technoleg.
Drwy greu parth prawf 5G penodol lle gall busnesau newydd a chwmnïau sefydledig dreialu technolegau newydd, bydd y fenter hon yn denu diwydiannau, sgiliau a swyddi newydd i'r rhanbarth, gan ysgogi arloesi a thwf economaidd.
Yn sail i hyn i gyd mae seilwaith digidol sy'n barod ar gyfer y dyfodol, wedi'i adeiladu ar rwydweithiau ffeibr a diwifr, ac wedi'i gynllunio i gefnogi gwasanaethau 5G, ehangu a thechnolegau datblygol.
Dywedodd Richard Lancaster, y Gweilch:
Mae'r ailddatblygiad hwn yn fwy na dim ond brics a morter, mae'n ymwneud â chreu profiad sy'n cyfateb i angerdd ein cefnogwyr. Gyda chysylltedd y genhedlaeth nesaf, bydd cefnogwyr yn agosach at y gêm nag erioed o'r blaen, boed yn y standiau neu'n ymgysylltu'n ddigidol.Richard Lancaster, Y Gweilch
Dywedodd Gareth Hopkins, Cyfarwyddwr Technoleg Busnes, VodafoneThree:
Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall cysylltedd uwch helpu i drawsnewid dyfodol chwaraeon ac adloniant byw yn y DU. Trwy ddefnyddio technoleg Rhwydwaith Preifat Symudol 5G Vodafone, bydd y stadiwm yn elwa ar gysylltedd diogel o safon uchel sy'n gallu cefnogi popeth o brofiadau gwell i gefnogwyr i alluoedd darlledu a gweithrediadau lleoliad mwy clyfar. Fel rhan o fuddsoddiad parhaus VodafoneThree o £11 biliwn yn ein rhwydwaith yn y DU, rydym yn parhau i ddod â seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf i gymunedau a sefydliadau ledled y wlad. Mae'r datblygiad hwn yn cryfhau safle Abertawe ymhellach fel canolfan ar gyfer arloesi digidol ac yn tynnu sylw at y rôl y gall cysylltedd ei chwarae wrth gefnogi dyfodol chwaraeon a digwyddiadau byw mawr.Gareth Hopkins, VodafoneThree
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i wneud Abertawe yn arweinydd ym maes technoleg a chwaraeon. Mae'r gwaith o drawsnewid San Halen yn llawer mwy na chreu cartref gwych i dîm Rygbi'r Gweilch – mae'n ymwneud ag adeiladu lle sy'n barod ar gyfer y dyfodol a fydd o fudd i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr am genedlaethau i ddod. Trwy fanteisio ar dechnoleg 5G arloesol a seilwaith digidol o'r radd flaenaf, rydyn ni'n creu lleoliad a fydd yn darparu profiadau arbennig i gefnogwyr, yn cefnogi arloesi ym maes gwyddor chwaraeon a darlledu, ac yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ac entrepreneuriaid ddatblygu a phrofi technolegau newydd. Bydd San Helen yn ganolfan ar gyfer arloesi, ymgysylltu â'r gymuned a thwf economaidd, gan helpu i gryfhau enw da Abertawe fel canolfan ragoriaeth ddigidol a sicrhau bod rhanbarth Bae Abertawe yn parhau i fod ar y blaen o ran datblygiadau technolegol.Cynghorydd Rob Stewart, Cyngor Abertawe
Mae'r fenter hon yn rhan o Raglen Seilwaith Digidol ehangach Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cynnwys buddsoddi mewn cysylltedd gigabit ar draws parthau twf economaidd allweddol, darparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol, ynghyd â buddsoddiadau mewn cysylltedd gwledig a rhwydweithiau IoT. Mae'r Gronfa Arloesi 5G yn benodol yn ysgogi cysylltedd diwifr y genhedlaeth nesaf sy'n cyflymu arloesi mewn sectorau blaenoriaeth gan gynnwys chwaraeon, iechyd, technoleg amaethyddol a gweithgynhyrchu clyfar.
Trwy bartneriaethau â Chyngor Abertawe, y Gweilch, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a darparwyr technoleg, bydd y prosiect yn darparu profiadau gwell ar ddiwrnod gêm, yn hyrwyddo gwyddor chwaraeon a llesiant athletwyr, ac yn creu hwb cymunedol cysylltiedig ar gyfer gemau, digwyddiadau a dysgu drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r cyllid hwn yn nodi cam sylweddol tuag at sefydlu Abertawe fel esiampl genedlaethol ym maes seilwaith chwaraeon digidol. Mae'r broses o integreiddio cysylltedd diwifr uwch yn gosod San Helen's fel mwy na stadiwm; mae'n dod yn ganolfan arloesi sy'n gwneud gwahaniaeth i chwaraeon, gwyddoniaeth a'r gymuned ar draws rhanbarth Bae Abertawe.