Mae hyn yn drawsnewidiad sylweddol o ddarpariaeth o ychydig dros 5% yn 2019. Ers hynny, mae'r ddarpariaeth wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn, gan adlewyrchu'r raddfa gyflawni ac effeithiolrwydd dull dan arweiniad partneriaeth a chefnogaeth allweddol gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Gydag ychydig o ddiddordeb masnachol ar y dechrau, rhoddwyd ffocws sylweddol ar gydweithio'n agos â chymunedau i ddangos y galw a dileu rhwystrau i ddarpariaeth. Mae hyn wedi helpu i greu'r amodau iawn ar gyfer buddsoddiad cystadleuol ac, ers hynny, mae wedi trawsnewid y farchnad leol. Heddiw, mae 43.7% o'r ddarpariaeth Gigadid yn Sir Benfro yn cael ei darparu gan gyflenwyr rhwydwaith amgen, gan gynnwys Ogi, Voneus a'r darparwr lleol, Dragon WiFi. Yn ogystal â hyn, mae Openreach yn parhau i fod yn ddatblygwr rhwydwaith craidd yn y sir, ac mae arwydd cryf y bydd yn aros yn y sefyllfa honno yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Sir Penfro, sydd â chyfrifoldeb portffolio am seilwaith digidol ers 2017:

Mae cyrraedd darpariaeth fand eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigadid o 75% yn garreg filltir bwysig i Sir Benfro ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth. Yn 2019, roedd rhannau helaeth o'r sir yn cael eu hanwybyddu o ran buddsoddiad a dim ond 5% allai gael cyflymder Gigadid. Ers 2019, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector, mae tua 50,000 o gartrefi a busnesau yn Sir Benfro wedi'u cysylltu ac, er ein bod yn cydnabod bod rhagor i'w wneud cyn i ni gyrraedd 100%, mae'r cynnydd hyd yn hyn, yn enwedig o ystyried natur wledig ein sir, wedi bod yn anhygoel.
Cynghorydd Paul Miller, Cyngor Sir Benfro

Mae'r gwaith o gyflawni ledled y sir wedi cael ei gefnogi gan gyfuniad o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y rhaglen Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol sy'n cysylltu tua 70 o safleoedd y sector cyhoeddus, Cynllun Talebau Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU, Partneriaethau Cymunedol Ffeibr Openreach , grantiau Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, amryw o brosiectau adeiladu masnachol arfaethedig a Phrosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang y Rhaglen Seilwaith Digidol.

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymru a Gorllewin Lloegr, Openreach:

Rydyn ni’n falch o gefnogi dyfodol digidol Sir Benfro, gyda'n rhwydwaith ffeibr llawn bellach yn cyrraedd 43,000 o safleoedd drwy fuddsoddiad o £12.9m. Mae'r garreg filltir hon yn golygu cysylltedd cyflymach, mwy dibynadwy i gartrefi a busnesau ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gan gydweithio'n agos â Chyngor Sir Penfro a Llywodraeth y DU, rydyn ni’n parhau i ddod â ffeibr llawn i hyd yn oed fwy o gymunedau.
Martin Williams, Openreach

Mae’r Hyrwyddwyr Digidol yng Nghyngor Sir Penfro wedi chwarae rhan allweddol wrth gynyddu lefelau cysylltedd. Drwy ddull rhagweithiol sy’n chwalu rhwystrau, mae'r tîm wedi symleiddio prosesau mewnol ac wedi cydgysylltu’n gyson i gefnogi cyflenwyr a chyflymu'r ddarpariaeth.

Bydd gwaith nawr yn parhau i ymestyn y ddarpariaeth ymhellach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anoddach eu cyrraedd, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw gymunedau yn cael eu gadael ar ôl wrth i Sir Benfro adeiladu'r sylfeini digidol i gefnogi twf economaidd, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol gwydn.

I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd yn eich ardal, e-bostiwch eich Hyrwyddwyr Digidol lleol: bandeang@sir-benfro.gov.uk