Mae'r ffigurau diweddaraf gan thinkbroadband (Mehefin 2026) yn dangos bod darpariaeth cysylltiad ffeibr i'r adeilad wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ddarpariaeth yn Abertawe bellach yn cyrraedd 90% o'r adeiladau, sy'n rhagori ar gyfartaledd Cymru, sef 87%. Mae Castell-nedd Port Talbot yn cyrraedd 87%, Sir Gaerfyrddin yn cyrraedd 78% a Sir Benfro yn cyrraedd 77%.
Mae hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol o gymharu â lefelau 2024, pan oedd y ddarpariaeth yn amrywio o tua 50% i ychydig dros 60% ar draws y rhanbarth. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle mae'r ddarpariaeth wedi cynyddu mwy na 30%, gan dynnu sylw at gyflymder y broses o gyflwyno seilwaith.
Er gwaethaf gostyngiad sylweddol yn nifer y safleoedd sy'n derbyn cyflymderau o dan 10 Mbps, cydnabyddir bod angen gwneud rhagor o waith i wella cysylltedd i'r rhai sy'n dal i brofi gwasanaethau band eang gwael. Mae sawl menter yn helpu i fynd i'r afael â'r her hon, gan gynnwys y Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang a Phrosiect Ymestyn Band Eang Cyflym gwerth £70 miliwn Llywodraeth Cymru.
Mae'r ddau brosiect yn targedu adeiladau sy'n derbyn cyflymderau o dan 30 Mbps. Yn ogystal, mae Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar ddarparu cysylltedd cyflymach, mwy dibynadwy i ardaloedd gwledig ac anodd eu cyrraedd sydd wedi profi darpariaeth band eang gyfyngedig yn y gorffennol.
Yn ôl Adroddiad Cenhedloedd Cysylltiedig Gwanwyn 2026 Ofcom, mae cysylltedd symudol hefyd yn parhau i fod yn gryf, ac mae signal 4G ar gael gan o leiaf un rhwydwaith i 98-99% o adeiladau ledled y rhanbarth a gwelliannau i'r ddarpariaeth ar draws y tri gweithredwr.
Mae'r gwaith a wnaed gan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir wedi lleihau'n sylweddol nifer y mannau gwan ar gyfer signal ffonau symudol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan gynyddu darpariaeth y tri gweithredwr rhwydwaith symudol drwy ddarparu seilwaith mast newydd a gwell. O ganlyniad, mae llai o ardaloedd heb signal ffonau symudol gan alluogi trigolion, busnesau ac ymwelwyr i gael gwell mynediad at gysylltedd symudol dibynadwy waeth beth fo'u darparwr rhwydwaith dewisol.
Mae'r data diweddaraf yn tynnu sylw at welliant cyffredinol yn ogystal â chynnydd parhaus wrth fynd i'r afael â'r rhaniad digidol hirsefydlog rhwng cymunedau trefol a gwledig.
Mae'r cynnydd a wnaed ar draws y rhanbarth yn dyst i'r perthnasoedd gwaith cydweithredol cryf a ffurfiwyd rhwng awdurdodau lleol, partneriaid seilwaith digidol a darparwyr telathrebu.
Mae hyrwyddwyr digidol lleol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi chwarae rhan allweddol wrth gydlynu'r gweithgaredd hwn, gan nodi meysydd lle mae angen, a chefnogi'r gwaith o gyflwyno ar lawr gwlad. Mae eu gwaith ochr yn ochr â chyflenwyr allweddol wedi helpu i ddatgloi buddsoddiad preifat a chyhoeddus, cyflymu'r broses o gyflwyno a sicrhau bod seilwaith yn cael ei ddefnyddio lle mae ei angen fwyaf.
Mae'r dull partneriaeth hwn wedi bod yn arbennig o bwysig wrth bontio bylchau cysylltedd, gan alluogi darparwyr i gyrraedd mwy o gymunedau gwledig a sicrhau bod buddsoddiad yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol.
Mae gwell cysylltedd eisoes yn sicrhau manteision ehangach ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan gefnogi twf economaidd, galluogi arloesi, a gwella mynediad at wasanaethau.
Mae seilwaith digidol o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer busnesau modern, gweithio o bell, addysg a gofal iechyd. Wrth i'r ddarpariaeth barhau i ehangu, gall mwy o drigolion a busnesau gael mynediad at fand eang cyflym, dibynadwy, gan helpu i greu economi ddigidol fwy cynhwysol.
Dywedodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae'r gwelliannau sylweddol rydyn ni'n eu gweld ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn rhyfeddol. Mewn ychydig flynyddoedd yn unig, mae cysylltedd ffibr llawn a ffôn symudol wedi gwella'n sylweddol, gan gynnwys mewn llawer o gymunedau gwledig sydd wedi bod yn fwy anodd eu cyrraedd yn y gorffennol. Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu cryfder y partneriaethau rydyn ni wedi'u meithrin ar draws y rhanbarth. Drwy ddod ag awdurdodau lleol, y Tîm Seilwaith Digidol Rhanbarthol, darparwyr telathrebu a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU at ei gilydd, rydyn ni wedi gallu denu buddsoddiad, mynd i'r afael â bylchau o ran signal a darparu'r seilwaith digidol sydd ei angen i gefnogi cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod mwy i'w wneud o hyd, yn enwedig yn rhai o'n hardaloedd mwyaf gwledig, mae'r canlyniadau hyn yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall cydweithio ei gyflawni.Jonathan Burnes, Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd yn eich ardal, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol.
Ffibr llawn (cysylltiad ffeibr i'r adeilad)
Sir | 2024 | 2026 |
Abertawe | 63% | 90% |
Castell-nedd Port Talbot | 51% | 87% |
Sir Benfro | 58% | 77% |
Sir Gaerfyrddin | 60% | 78% |
Signal 4G - o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol
SIr | Ionawr 2024 | Ionawr 2026 |
Abertawe | 98% | 99% |
Castell-nedd Port Talbot | 98% | 99% |
Sir Benfro | 99% | 99% |
Sir Gaerfyrddin | 95% | 98% |
Signal 4G - pob Gweithredwr Rhwydwaith Symudol
Sir | Ionawr 2024 | Ionawr 2026 |
Abertawe | 85% | 88% |
Castell-nedd Port Talbot | 73% | 84% |
Sir Benfro | 77% | 86% |
Sir Gaerfyrddin | 66% | 81% |