Mae'r cyllid hwn yn cael ei ddarparu drwy ymrwymiadau Gwerth Cymdeithasol ITS, a gyflawnir fel rhan o'i gontract gyda Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae tair gwobr o £1,300 ar gael, gydag un wobr yn cael ei dyfarnu ym mhob un o'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol:

• Castell-nedd Port Talbot

• Sir Benfro

• Abertawe

Nod y cyllid yw cefnogi mentrau lleol sy'n helpu i fynd i'r afael ag allgáu digidol a chynyddu hyder digidol, sgiliau digidol a mynediad at dechnoleg mewn cymunedau ledled y rhanbarth.

Gall prosiectau gynnwys gweithgareddau fel hyfforddiant sgiliau digidol, sesiynau cymorth i bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, mentrau technoleg cymunedol, neu welliannau i raglenni cynhwysiant digidol presennol.

Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn set gyson o feini prawf, gan gynnwys:

• Y gweithgaredd arfaethedig

• Yr effaith ddisgwyliedig

• Y gallu i gyflawni'r prosiect

• Gwerth am arian

• Yr allbynnau a'r canlyniadau disgwyliedig

Gan fod Sir Gaerfyrddin eisoes wedi elwa ar fentrau gwerth cymdeithasol eraill ITS, mae'r rownd gyllido hon yn canolbwyntio ar sefydliadau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe er mwyn helpu i sicrhau mynediad teg at y cymorth sydd ar gael ledled Rhanbarth Dinas Bae Abertawe.

Gwahoddir sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i lenwi ffurflen gais fer sy'n amlinellu sut y bydd eu prosiect yn cyflwyno, gwella neu gefnogi gweithgarwch cynhwysiant digidol yn eu hardal leol.

Sut i Wneud Cais

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 canol dydd ddydd Gwener 9 Hydref 2026. Gwnewch gais yma.

Dywedodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Mae cynhwysiant digidol yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn llawn mewn bywyd modern, boed hynny drwy gael mynediad at wasanaethau, datblygu sgiliau, dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth neu gadw mewn cysylltiad ag eraill. Rydym yn falch iawn bod ITS Technology Group yn buddsoddi mewn cymunedau lleol drwy ei ymrwymiadau gwerth cymdeithasol, gan helpu sefydliadau i ddarparu cymorth ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Jonathan Burnes, Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Dywedodd Claire Davies, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, ITS Technology Group:

Fel rhan o'n hymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol cadarnhaol drwy ein gwaith gyda Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, rydym yn falch o gefnogi sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Edrychwn ymlaen at weld prosiectau arloesol sy'n helpu i wella mynediad digidol, sgiliau digidol a hyder digidol ledled y rhanbarth
Claire Davies, ITS