Daeth yr ymweliad â chynrychiolwyr awdurdodau lleol, partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe a hyrwyddwyr cymunedol ynghyd i rannu'r gwersi a ddysgwyd o brosiectau sydd wedi'u cyflawni, trafod yr heriau sy'n parhau a nodi ffyrdd ymarferol o gyflymu'r gwaith o wella cysylltedd ar draws y rhanbarth.

Dechreuodd y diwrnod yn Dale, Sir Benfro, lle roedd Ben wedi ymweld â phrosiect Partneriaeth Gymunedol Ffeibr llwyddiannus. Tynnodd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Benfro a'r gymuned leol sylw at rôl ymgysylltu cymunedol, arweinyddiaeth leol a gweithio mewn partneriaeth wrth helpu i gyflawni gwelliannau i fand eang mewn ardaloedd gwledig.

Yn Neuadd y Sir, Cyngor Sir Caerfyrddin, roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar ddatblygiadau cysylltedd ar draws y sir a sut i fynd i'r afael â chymunedau sy'n parhau i gael eu gadael ar ôl. Tynnwyd sylw at lwyddiannau'r Prosiectau Cymunedol Ffeibr a'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir a'r ffaith y bydd dros 9,300 o safleoedd yn elwa ar Broject Gigadid.

Yn ystod cinio gwaith yn Pentre Awel, Llanelli, daeth cynrychiolwyr o'r Rhaglen Seilwaith Digidol a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ynghyd i drafod blaenoriaethau cysylltedd rhanbarthol, y cynnydd hyd yma a chyfleoedd i rannu arfer gorau a chryfhau gwaith partneriaeth.

Daeth y diwrnod i ben yn 71/72 Ffordd y Brenin yn Abertawe, lle trafododd rhanddeiliaid o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot bwysigrwydd mynd i'r afael â bylchau mewn cysylltedd trefol, mentrau cynhwysiant digidol a ffyrdd o gefnogi buddsoddiad parhaus mewn band eang a'r gwaith o'i gyflwyno ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Chris Owen, Prif Swyddog Gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:

Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu Ben Whitestone i Ranbarth Dinas Bae Abertawe a rhoi cyfle i bartneriaid drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella cysylltedd digidol ar draws ein cymunedau. Er ei bod yn bwysig cydnabod prosiectau llwyddiannus a'r effaith maen nhw'n ei chael, roedd yr ymweliad yr un mor werthfawr wrth ein helpu i nodi'r heriau sy'n parhau. Drwy ddod ag awdurdodau lleol, cynrychiolwyr cymunedol, partneriaid rhanbarthol a BDUK ynghyd, cawsom gyfle i rannu profiadau ymarferol ac ystyried sut y gallwn ni wneud y broses o gyflwyno seilwaith hyd yn oed yn fwy effeithiol yn y dyfodol. Mae partneriaethau cryf yn hanfodol i ddarparu seilwaith digidol, yn enwedig mewn ardaloedd anoddach eu cyrraedd. Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd, gallwn ni adeiladu ar y cynnydd presennol a helpu i sicrhau bod cymunedau a busnesau ledled De-orllewin Cymru yn elwa ar well cysylltedd.
Chris Owen, Prif Swyddog Gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru

Dywedodd Ben Whitestone, Prif Weithredwr Building Digital UK (BDUK):

Roedd yn bleser ymweld â Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a chwrdd â'r partneriaid a'r cymunedau sy'n helpu i sicrhau gwell cysylltedd digidol ledled De-orllewin Cymru. Rhoddodd yr ymweliad ddealltwriaeth werthfawr o'r prosesau cyflwyno. Mae clywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n rhan o'r gwaith o ddydd i ddydd yn ein helpu ni i ddeall blaenoriaethau lleol ac i nodi ffyrdd o barhau i wella'r ddarpariaeth er budd cymunedau a busnesau.
Ben Whitestone, BDUK