Mae Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol o ran cysylltedd digidol. Mae 80% o safleoedd ar draws y sir bellach yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigabit. Mae'r data diweddaraf ar ddarpariaeth band eang yn dangos bod mynediad at seilwaith cyflym, dibynadwy, sy'n addas ar gyfer y dyfodol, wedi ehangu'n sylweddol, gan gefnogi preswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu effaith gyfunol buddsoddiad masnachol ac ymyriadau sector cyhoeddus wedi'u targedu, gyda chyfraniadau sylweddol gan Raglen Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU a Phartneriaethau Cymunedol Ffeibr Openreach.
Un o straeon llwyddiant blaenllaw'r sir yw Partneriaeth Gymunedol Ffeibr Pont-iets. Gan ddarparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigabit i 1,662 o safleoedd, y prosiect yw'r Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr fwyaf sy'n cael ei chyflwyno yng Nghymru, a'r mwyaf o'i fath i gael ei chwblhau unrhyw le yn y DU. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos graddfa'r uchelgais a'r cyflawniad yn Sir Gaerfyrddin, gan helpu i drawsnewid cysylltedd digidol i breswylwyr, busnesau a chymunedau ledled yr ardal.
Ynghyd â Phont-iets mae naw Partneriaeth Gymunedol Ffeibr wedi'u cwblhau neu'n agosáu at gael eu cwblhau, gan helpu i ddarparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigiabit i fwy na 6,500 o safleoedd ar draws y sir.
Mae Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd wedi dechrau cysylltu rhai o'r cartrefi sydd â'r cysylltiad gwannaf yn y sir. Bydd y buddsoddiad hwn o £9.8m yn cysylltu dros 1,500 o safleoedd ledled y rhanbarth. Mae Salem yn un ardal yn y sir gyda 40 o safleoedd bellach yn barod i'w gwasanaethu. Yn gyfan gwbl, bydd 754 o gartrefi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu huwchraddio o gopr i ffeibr erbyn diwedd mis Mawrth 2027.
Mae llwyddiant yr ymyriadau hyn wedi'i ategu gan gydweithrediad agos rhwng awdurdodau lleol, darparwyr telathrebu, cymunedau lleol a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Drwy weithio gyda'i gilydd i nodi heriau cysylltedd, sicrhau buddsoddiad a darparu atebion wedi'u targedu, mae partneriaid wedi cyflymu'r broses o gyflwyno band eang mewn ardaloedd a allai fel arall fod wedi parhau heb wasanaeth digonol.
Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn wedi helpu i ymestyn cysylltedd cenhedlaeth nesaf i ardaloedd lle efallai na fyddai darpariaeth fasnachol ar ei phen ei hun wedi bod yn hyfyw, gan sicrhau y gall mwy o gymunedau elwa ar y cyfleoedd y mae band eang cyflym yn eu cynnig.
Wrth i ddarpariaeth gigabit barhau i gynyddu, mae mwy o gartrefi a busnesau yn mynd i gael mynediad at yr offer a'r gwasanaethau digidol sydd eu hangen i gefnogi twf economaidd, arloesedd, addysg, gofal iechyd a gweithio hybrid.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae darparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigabit i 80% o Sir Gaerfyrddin yn garreg filltir bwysig ac yn tystio i gryfder cydweithio ar draws llywodraeth leol, Llywodraeth y DU a phartneriaid yn y diwydiant. Er ein bod ni'n falch o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi mentrau a fydd yn helpu i wella cysylltedd yn yr ardaloedd hynny lle mae'n parhau i fod yn heriol darparu gwasanaetCynghorydd Hazel Evans, Cyngor Sir Gar
Dywedodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio, Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws y rhanbarth ehangach yn dangos sut y gall buddsoddi cydlynol a gweithio mewn partneriaeth gyflymu trawsnewid digidol a helpu i leihau bylchau cysylltedd rhwng cymunedau trefol a gwledig. Drwy gydweithio parhaus, rydyn ni'n helpu i sicrhau bod mwy o gymunedau ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn gallu elwa ar y cyfleoedd y mae cysylltedd digidol o'r radd flaenaf yn eu darparu.Jonathan Burnes, Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Er gwaethaf y garreg filltir sylweddol hon, mae rhagor o waith i'w wneud o hyd. Drwy fentrau megis Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang Bargen Ddinesig Bae Abertawe, rhaglen Ymestyn Band Eang Cyflym Llywodraeth Cymru a gwaith parhaol i gyflawni Prosiect Gigabit, mae ymdrechion yn parhau i gyrraedd safleoedd yn y rhannau mwyaf gwledig ac anoddaf eu cysylltu yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd yr ymyriadau wedi'u targedu hyn, ynghyd â buddsoddiad masnachol parhaus, yn chwarae rôl hanfodol wrth gau'r bylchau mewn cysylltedd sy'n weddill a sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl wrth i'r sir barhau ar ei thaith tuag at wasanaethau band eang cyflym, sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd yn eich ardal, cysylltwch â'ch Hyrwyddwyr Digidol lleol.