Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyhoeddi bod y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cytuno i gynnal un o'r pyrth Rhwydwaith Ardal Eang Pellgyrhaeddol (LoRaWAN), sy'n rhan o Rwydwaith Arloesi Digidol ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ar ei safle 700 hectar ger Onllwyn.
Mae'r dechnoleg hon yn darparu cysylltedd di-wifr ar gyfer ystod o atebion y Rhyngrwyd Pethau (IoT) neu rwydwaith o ddyfeisiau cysylltiol.
Mae synwyryddion IoT cost isel wedi'u pweru gan fatri, solar, neu wres yn gweithio gyda'r uned porth i gasglu a monitro data o bell. Mae'r data hwn yn helpu i wella ymchwil a datblygiad technoleg, gyda'r nod o greu atebion tymor hir ar gyfer y diwydiant.
Mae monitro llifogydd, suddiant, a thymheredd yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau rheilffyrdd yn fwy cynaliadwy, fforddiadwy, ac yn gyfeillgar i ddefnyddwyr a'r amgylchedd.
Ariannwyd y Rhwydwaith Arloesi Digidol gan Lywodraeth Cymru, Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r pedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Mae'r rhwydwaith hwn o 240+ o byrth yn darparu cysylltedd i alluogi defnydd o'r Rhyngrwyd Pethau.
Mae cyflwyno'r porth LoRaWAN yn cynyddu'n genedlaethol i gynorthwyo â'r angen cynyddol i ddefnyddio data i helpu i wella'r ffordd rydym yn byw. Heb os, bydd hyn yn helpu i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn y dyfodol.
Gellir gweld lleoliadau byw ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen hon:Map Porth LoRaWANgyda mynediad ar gael yn rhwydd drwyweinydd rhwydwaith LoRaWAN i weld y raddfa, The Things IndustriesneuThe Things Network(ar gyfer busnesau newydd).
Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Ltd, Simon Jones:
Rydym wrth ein bodd ein bod yn ymestyn ein perthynas â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ymhellach drwy gytuno i gynnal ei borth LoRaWAN ar safle GCRE.” Mae cwmpas yr offer hwn yn golygu y gallwn wneud llawer mwy o waith ymchwil na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, gan wneud y safle'n fwy hyblyg ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a gwella'r cynnig y gallwn ei wneud i'n cwsmeriaid yn y diwydiant rheilffyrdd a symudedd. Mae'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn ddatblygiad sydd â phedair cenhadaeth glir - ailddatblygu ffyniant lleol; gwneud trafnidiaeth yn well; arloesi rheilffordd Sero Net ac adnewyddu lle anhygoel. Mae cael seilwaith digidol o ansawdd uchel ar y safle yn hanfodol i gyflawni'r uchelgeisiau hynny ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda'n partneriaid yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn.Simon Jones, Prif Weithredwr, GCRE
Mae'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn gyfleuster pwrpasol sy'n cael ei adeiladu ger Onllwyn ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio seilwaith o'r radd flaenaf a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol, y cyfleuster cyntaf o'i fath yn Ewrop.
Gyda £70m gan Lywodraethau Cymru a'r DU a £7.4m gan Innovate UK ar gyfer ymchwil a datblygiad, mae GCRE yn denu peirianwyr, datblygwyr meddalwedd, a dylunwyr gorau o bob cwr o'r byd yn y diwydiant rheilffyrdd a symudedd.
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd:
Mae'r prosiect hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i Gastell-nedd Port Talbot ac mae'n galonogol iawn gwybod bod canolfannau ymchwil a thechnoleg o'r radd flaenaf yn dewis datblygu eu safleoedd yn y fwrdeistref sirol hon. Mae'r manteision sy'n deillio o'r datblygiad hwn yn hanfodol ar gyfer taith Castell-nedd Port Talbot i gryfhau ei gyfleoedd economaidd drwy ei gysylltedd digidol. Ein huchelgais yw creu cymdeithas sy'n flaengar yn ddigidol ac mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyflawni hynny.Cynghorydd Jeremy Hurley, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae'r bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a GCRE yn enghraifft wych o arwyddair Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Dinas Bae Abertawe 'Cysylltedd trwy gydweithredu' ac mae ganddi'r sylfeini i fuddio gwasanaethau eraill yn ei chyffiniau oherwydd ei galluoedd hirbell.
Mae'r datblygiad diweddar gan y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un a fydd nid yn unig yn denu rhagor o ddiddordeb yn yr ardal ond bydd yn cryfhau uchelgais Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cysylltedd digidol di-dor ar draws y fwrdeistref sirol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:m.morris@npt.gov.uk