Dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath i gael ei gynnal gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac roedd yn cadarnhau oes ddigidol newydd ar gyfer rhanbarth y Fargen Ddinesig, sy'n cwmpasu Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Trwy gydol y dydd, pwysleisiodd y siaradwyr yr angen am gydweithio parhaus rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus i wneud y defnydd gorau o dechnoleg, a hynny i wella canlyniadau iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol i gymunedau, yn ogystal â sbarduno twf posibl y sectorau hynny.
Gyda digon o staff yr awdurdodau lleol yn bresennol, canolbwyntiodd y panel cyntaf ar y daith i 5G a'r tu hwnt, gan siarad yn uniongyrchol â'r gynulleidfa honno, a phwysleisiodd Pete Hollebon o Virgin Media O2:
Chi yw ceidwaid y gât, ac rydym am gysylltu â chi i wella'r amgylchedd cymdeithasol a ffyniant busnesau. Megis dechrau yw hyn ac mae'n rhan o ddatblygu perthynas hirach i sicrhau gwell cysylltedd. We (Virgin Media O2) are proud that Swansea will be the first Welsh community to receive inward investment through outdoor small cells.Pete Hollebon, Virgin Media O2
Roedd amrywiaeth o siaradwyr arbenigol yno drwy gydol y dydd ac aethpwyd ati i ymdrin â phynciau'n drylwyr. Yn benodol, wrth drafod pryderon iechyd cysylltiedig â 5G, nododd Dr Rob Matthews o Vodafone:
Un o'r heriau yw rhannu gwybodaeth â phobl i sicrhau bod ganddynt y darlun llawn am y dechnoleg, gan sicrhau ein bod yn siarad â rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol, fel ein bod yn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn rhan o'r broses yn barhaus.Dr Rob Matthews, Vodafone
Roedd y digwyddiad yn llawn felly aethpwyd ati i annog y rhai oedd yn mynychu o bell i ryngweithio â thrafodaethau a chyflwyniadau'r diwrnod i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Dywedodd Gareth Jones, Prif Swyddog Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin, a arweiniodd raglen y dydd:
Roedd yn wych gweld faint o bobl yn y rhanbarth sy'n ymddiddori yn y datblygiadau digidol o'u cwmpas a dysgu eu bod yn gymaint rhan o'r broses flaengar honno ag unrhyw un arall. Roedd clywed eu sylwadau a'u syniadau heddiw yn galonogol iawn ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sbarduno brwdfrydedd i ddysgu rhagor am fanteision gwell cysylltedd digidol, oherwydd bydd hyn yn caniatáu i'n rhanbarth ffynnu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.Gareth Jones, Cyngor Sir Caerfyrddin
Bu panelwyr yn trafod yn frwdfrydig eu barn ynghylch datblygu cysylltedd digidol, ond yn bwysicach fyth sut mae hyn yn trawsnewid bywydau pobl a busnesau yn rhanbarth Bae Abertawe.
Gydag ymrwymiad amlwg ein partneriaid rhanbarthol a chydweithio llwyddiannus rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus eisoes yn digwydd, mae rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe mewn sefyllfa dda i elwa ar y manteision o fuddsoddi helaeth a fydd yn sicrhau bod gwell cysylltiadau rhwng cymunedau a bod busnesau'n ffynnu yn y dyfodol.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a wnaeth gloi'r digwyddiad gyda'i weledigaeth ar gyfer Abertawe wirioneddol ddigidol:
Mae dod â chymaint o arbenigwyr amrywiol yn y diwydiant a chynrychiolwyr y llywodraeth ynghyd i ymdrin â'r pynciau gwerthfawr sy'n dylanwadu ar ddyfodol digidol y rhanbarth yn gyfle gwych. Nid yn unig y bydd hyn yn hyrwyddo cydweithio da a fydd yn hybu prosiectau seilwaith digidol ond bydd hefyd yn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn barhaus yn y ddeialog o sut i lunio dyfodol digidol yn rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe