Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chymorth o’r Gronfa Band Eang Lleol, wedi llwyddo i gwblhau 50% o'i phrosiect Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn. Mae'r garreg filltir arwyddocaol hon yn gam mawr ymlaen o ran gwella cysylltedd digidol i safleoedd sector cyhoeddus ledled y rhanbarth, gyda manteision ariannol a chymdeithasol sylweddol i gymunedau cyfagos.
Nod adeiladu'r seilwaith ffeibr llawn, a ddarperir gan BT drwy Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw darparu gwell darpariaeth band eang i safleoedd sector cyhoeddus ledled y rhanbarth. Mae Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus yn cysylltu sefydliadau'r sector cyhoeddus â Rhwydwaith Ardal Eang preifat, diogel, sy'n cynnig gwasanaeth a reolir yn llawn sy'n gwella cysylltedd hanfodol i fusnes, ac sy'n caniatáu i sefydliadau'r sector cyhoeddus elwa o wasanaethau rhwydwaith arloesol, cost-effeithiol a chadarn sy'n sbarduno cynhyrchiant. Mae buddiolwyr y prosiect yn cynnwys pob un o'r pedwar awdurdod lleol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Nod y prosiect yw cyflwyno band eang ffeibr llawn i 69 o safleoedd dan berchnogaeth gyhoeddus sydd angen gwell seilwaith. Mae'r fenter hon yn darparu cysylltedd cyflym, dibynadwy, wedi'i ddiogelu i'r dyfodol i fodloni gofynion digidol cynyddol a chefnogi agendâu trawsnewid digidol ehangach y sector cyhoeddus. Mae'r prosiect yn addo gwasanaethau mwy effeithlon a gwell profiadau i breswylwyr a busnesau, arbedion cost i bartneriaid, a'r potensial ar gyfer cymwysiadau digidol arloesol fel realiti estynedig (AR) a phrofiadau realiti rhithwir (VR) mewn lleoliadau twristiaeth allweddol fel Parc Gwledig Pen-bre a Pharc Gwledig Margam.
Dywedodd Simon Davies, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae cyrraedd y garreg filltir 50% hon yn gyflawniad gwych ac yn un a fydd yn gwella gwasanaethau'r safleoedd sector cyhoeddus hyn yn fawr. Mae uwchraddio'r lleoliadau hyn i gael seilwaith digidol ar gyfradd gigadid yn hanfodol ar gyfer eu ffyniant yn y dyfodol. Mae angen i'n partneriaid rhanbarthol yn y sector cyhoeddus symud ymlaen gyda'u defnydd o dechnoleg ddigidol i sicrhau y gellir cynnig y profiadau gorau ac mae'r prosiect hwn yn rhan werthfawr o gyflawni hynny.Simon Davies, Cyngor Sir Caerfyrddin
Yn ogystal, bydd tua 425 o adeiladau preswyl a busnes yn elwa o fand eang gwell o ganlyniad, a disgwylir i'r prosiect ysgogi buddsoddiad masnachol pellach, gan gyflymu'r broses o gyflwyno rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhanbarth. Bydd y buddsoddiad ar y cyd hwn o £2m (£1.05m ohono wedi ei sicrhau gan y Rhaglen Seilwaith Digidol o Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru) yn darparu uwchraddiadau hanfodol i seilwaith a fydd yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr a busnesau, denu buddsoddiad newydd, ac ysgogi twf economaidd.
Mae safleoedd sydd wedi'u cwblhau yn y cam hwn yn cynnwys lleoliadau strategol sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r safleoedd hyn wedi'u blaenoriaethu i sicrhau'r effaith fwyaf ar y gymuned a sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae cadw i fyny â'r galw cynyddol am wasanaethau digidol ar draws y sector cyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau'r profiadau gorau posibl i'n preswylwyr a'n busnesau, ac er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen i sicrhau bod ein gwasanaethau wedi'u diogelu i'r dyfodol am yr 20 mlynedd nesaf. Mae cyflawni'r marc o 50% yn garreg filltir allweddol i'r prosiect hwn ac mae wedi caniatáu i sawl safle elwa o fuddion ffeibr llawn eisoes. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda BT a Phrosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus ar gwblhau'r prosiect hwn yn llawn wrth gefnogi trawsnewid darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe