Ffrydiau Gwaith
-
Lleoedd Cysylltiedig
Cysylltu safleoedd strategol allweddol ac ysgogi mewnfuddsoddi ar draws parthau twf economaidd y rhanbarth. Darparu cysylltedd gigabit i ddiogelu ein rhanbarth yn y dyfodol, sy'n cyd-fynd ag agendâu ein partneriaid yn y sector cyhoeddus o ran trawsnewid digidol. Mae rhwydweithiau ffeibr pwrpasol yn darparu'r sylfaen ar gyfer cydweithio yn y dyfodol rhwng llywodraeth leol, iechyd ac addysg.
Mae elfen gwerth cymdeithasol y prosiectau yn y ffrwd waith hon yn sicrhau manteision a buddsoddiad ychwanegol i gymunedau ym mhob sir, gan fynd i'r afael â chynhwysiant digidol a chysylltu mwy o gartrefi a busnesau.
-
Glwledig
Mae'r her o bontio'r bwlch mewn cysylltedd yn cael ei chydnabod yn eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle gall costau adeiladu rhwydweithiau gigabit fod yn ormodol.
Mae tîm y rhaglen ranbarthol a Swyddogion Ymgysylltu Band Eang yr Awdurdod Lleol yn monitro cynnydd cyflwyno a chyflawni Prosiect Gigabit yn fasnachol trwy ddadansoddi data helaeth, sy'n rhan hanfodol o waith y tîm ac sydd wedi llywio lle mae angen i'r rhaglen gyfeirio ei chyllid cyfalaf i sicrhau ein bod yn cysylltu cymaint o gartrefi a busnesau â phosibl.
-
Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf
Gan weithio ar y cyd â diwydiant a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae'r ffrwd waith hon yn cefnogi cyflwyno 4G/5G ledled y rhanbarth.
Mae'r ffrwd waith hon hefyd yn ysgogi arloesi ar draws sectorau allweddol gan sefydlu canolfannau rhagoriaeth mewn iechyd a gwyddor bywyd, diwydiannau creadigol a'r economi ymwelwyr, trafnidiaeth a logisteg, technolegau amaethyddol, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a sgiliau. Mae ein Cronfa Arloesi 5G yn darparu cyllid cyfalaf i adeiladu'r seilwaith digidol sydd ei angen i Brosiectau a Rhaglenni eraill y Fargen Ddinesig gyflawni manteision 5G a rhwydweithiau di-wifr uwch. Bydd hyn yn eu galluogi i fanteisio i'r eithaf ar y defnydd o'r Rhyngrwyd Pethau a mabwysiadu technoleg ddatblygol.
-
Gwireddu buddion
Mae cwmni Farrpoint Ltd wedi'i benodi i gynnal asesiad annibynnol blynyddol o'r effaith ar fuddion, arfarniad effaith economaidd canol tymor ac ar ddiwedd y rhaglen. O 2021 - 2023 mae’r rhanbarth wedi elwa ar fuddsoddiad mewnol o £66.1m gan y sector cyhoeddus a phreifat i wella cysylltedd symudol a sefydlog.
Mae'r Arfarniad Effaith Economaidd Canol Tymor yn dangos bod disgwyl i'r rhaglen gyffredinol gynyddu GVA rhanbarthol i £341.7 miliwn dros 15 mlynedd, sy'n gynnydd o'r amcangyfrif blaenorol o £318.8 miliwn. Mae'r dadansoddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan y Rhaglen Seilwaith Digidol y potensial i gynhyrchu dros £104.2 miliwn mewn buddion economaidd-gymdeithasol ychwanegol i'r rhanbarth.
Adroddiadau