£3.5m
Gyllid y Fargen Ddinesig32
Safle strategol wedi'u cysylltuTrosolwg
Mae ITS wedi cael ei benodi i adeiladu rhwydwaith ffeibr tywyll pwrpasol i 32 o safleoedd y sector cyhoeddus ledled Sir Gaerfyrddin.
Bydd y rhwydwaith newydd hwn, a fydd yn gwbl weithredol erbyn mis Rhagfyr 2026, yn sicrhau gwell capasiti a chyflymder, gan hwyluso rhannu a storio data yn ddiogel. Bydd yn cefnogi cydweithio ac yn sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau mewnol ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Bydd y seilwaith newydd hwn yn diogelu galluoedd digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin at y dyfodol.
Gan ddarparu hyblygrwydd, bydd yn darparu ystod o fanteision i wella ymchwil a datblygu yn seiliedig ar iechyd ac addysg. Hefyd, bydd y rhwydwaith yn helpu i hybu arloesedd i ddiwallu anghenion y sector cyhoeddus sy'n datblygu, yn ogystal â'r cymunedau a'r busnesau y maent yn eu cefnogi.
Amcanion y Prosiect
-
1
Cysylltedd diogelu at y dyfodolMae gan y rhwydwaith newydd hwn y gallu i ateb y galwadau cynyddol am ddata a gwell gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion datblygol pobl, cleifion, cwsmeriaid, sefydliadau a chymunedau.
-
2
Hybu arloeseddBydd ffeibr pwrpasol yn galluogi'r sector cyhoeddus i brofi a defnyddio technolegau newydd heb gyfaddawdu o ran cyflymder darparu'r gwasanaethau presennol a'u cynnal.
-
3
Gwella cydweithioRoedd cydweithio rhwng llywodraeth leol, iechyd ac addysg yn y dyfodol yn sbardun allweddol i'r prosiect hwn. Eu galluogi i rannu llawer o ddata mewn ffordd hynod ddiogel ynghyd â'r gallu i ddadansoddi'r data hwnnw mewn amser real, er mwyn helpu i wneud penderfyniadau ar sail data.