Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Polisi Preifatrwydd

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod...

  • Mae sicrhau bod Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran cyflawni ein prosiectau a chadw hyder y cyhoedd.

    Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.

    Er mwyn sicrhau bod y Rhaglen Seilwaith Digidol yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

    Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

  • Mae tîm y Rhaglen Seilwaith Digidol yn defnyddio data personol ar gyfer ystod gyfyngedig o ddibenion:

    • Eich cyfeirio at aelodau tîm y rhaglen a sefydliadau partner fel Building Digital UK Llywodraeth y DU.
    • Marchnata drwy e-bost - Optio i mewn yn unig

    Efallai y byddwn yn defnyddio'ch data personol pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ag aelodau o'n tîm, a gellir defnyddio amrywiol sianeli i ddilyn hyn, er enghraifft:

    • Ffôn
    • e-bost
    • Linkedin
    • E-lythyr newyddion - Optio i mewn yn unig gyda'r opsiwn i ddad-danysgrifio ar gael bob amser.

    Efallai y byddwch hefyd yn cydsynio i fod yn rhan o ffilmio a ffotograffiaeth sy'n hyrwyddo'r Rhaglen Seilwaith Digidol.

    Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein his-bwerau o dan Adran 111 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

  • Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i'ch helpu i gael cymorth pellach gan dîm y rhaglen neu os oes angen ymateb i ymholiad:

    • Enw
    • Cyfeiriad
    • E-bost
    • Cofrestru i dderbyn y llythyr newyddion - Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau a fydd yn ein helpu i ddarparu gwybodaeth berthnasol wedi'i thargedu a deall eich dewis iaith
    • Rhif ffôn cyswllt (os oes angen)
  • I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

  • Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

    Oni bai am ddelweddau sydd wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiadau a fformatau digidol, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

    Rydym yn defnyddio Gov Delivery ar gyfer ein e-lythyrau newyddion. Mae unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei storio ar y system Gov Delivery yn cael ei chadw ar weinyddion yn y DU. Mae croeso i chi ddad-danysgrifio i'r gwasanaeth newyddion hwn ar unrhyw adeg.

  • Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r isod, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darperir cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny.

    • Y gwasanaethau perthnasol o fewn y rhaglen neu'r awdurdod lleol perthnasol yr ydych yn cysylltu â ni amdano.
    • Partneriaid a chyflenwyr y rhaglen sydd â'r caniatâd cywir ar waith i wneud hynny.

    Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

    • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y rhaglen neu'r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi'r wybodaeth.
    • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd.
    • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw.
  • Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth wrth i chi weithio gyda ni ac am 2 flynedd ar ôl eich cyswllt diwethaf â ni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

  • Mae gennych yr hawl i:

    • Cael mynediad i'r data personol y mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn ei brosesu amdanoch.
    • Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn.
    • Tynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu'r wybodaeth, os mai hwn yw'r unig sail i brosesu'r wybodaeth.
    • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth.

    Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:

    • Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu.
    • Dileu eich data personol.
    • Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
    • Trosglwyddo data.
  • I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:

    Swyddog Diogelu Data
    Cyngor Sir Caerfyrddin
    Neuadd y Sir
    Caerfyrddin
    SA31 1JP

    E-bost: diogeludata@sirgar.gov.uk 

    Gellir cael manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chyfarwyddyd pellach ynghylch y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.