Mae'r prosiect wedi darparu rhwydwaith ffeibr diogel newydd sy'n cysylltu 36 o safleoedd sector cyhoeddus trwy 46 o gysylltiadau. Bydd hyn yn helpu sefydliadau allweddol i weithio'n agosach gyda'i gilydd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus er budd cymunedau lleol.

Mae'r rhwydwaith Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain yn caniatáu i sefydliadau cyhoeddus rannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyflym iawn. Mae'n cefnogi gwasanaethau digidol modern, systemau cwmwl, a ffyrdd newydd o weithio. Mae'r rhwydwaith hefyd yn gwella gwytnwch, gan helpu gwasanaethau critigol i gadw mewn cysylltiad a pharhau i weithredu yn ystod cyfnodau o darfu.

Darparwyd y rhwydwaith gan Virgin Media O2 Business (VMO2 Business) gyda chyfanswm buddsoddiad o £1,354,698.70 gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Dywedodd Martin McFadyen, Cyfarwyddwr y Sector Cyhoeddus yn VMO2 Business:

 

Mae'r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bydd yn cryfhau gwasanaethau'r sector cyhoeddus am flynyddoedd i ddod. Rydym yn falch o fod yn bartner cyflawni ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n perthnasoedd gwaith cryf ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Martin McFadyen, VMO2 Business

Mae gwaith VMO2 Business o ran cyflwyno'r seilwaith newydd yn hwylus wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei ddarparu'n effeithlon ac i'r safon uchaf, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer gwasanaethau digidol gwell ledled y rhanbarth.


Ymhlith y partneriaid sy'n gysylltiedig â'r prosiect mae Ymddiriedolaeth Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.


Trwy drin seilwaith digidol fel ased hirdymor, mae'r prosiect yn helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus at y dyfodol ac yn cefnogi cynlluniau ehangach ar gyfer rhanbarth mwy craff a chysylltiedig.


Mae'r cydweithio agos ag awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y prosiect. Helpodd eu cefnogaeth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni'n hwylus drwy leihau oedi a galluogi mynediad a chaniatâd amserol ar draws safleoedd.


Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Mae'r prosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain yn garreg filltir wych i'r Rhaglen Seilwaith Digidol. Mae'n adeiladu ar ymrwymiad Bargen Ddinesig Bae Abertawe i fuddsoddi mewn seilwaith sy'n darparu manteision parhaol i bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled De-orllewin Cymru.
Cynghorydd Rob Stewart, Cynghor Abertawe

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain, ewch i tudalen Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain.