Mae Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd wedi derbyn pum mlynedd o gysylltiad band eang am ddim gan Virgin Media O2 yn ogystal â Chronfa Cynhwysiant Digidol gwerth £15,750 gan BT fel rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol o fewn prosiectau a ariennir gan gyfalaf sy'n cael eu cyflawni drwy'r Rhaglen Seilwaith Digidol.
Mae'r cronfeydd yn helpu eu lleoliad presennol i ddod yn hwb ieuenctid modern â darpariaeth ddigidol.
Mae cynhwysiant digidol yn flaenoriaeth graidd i'r clwb, wedi'i blethu yn ei bolisïau a'i werthoedd. Wedi'i anelu at bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed, bydd y clwb yn cynnig nid yn unig gofod hamdden diogel ond cyfres gynhwysfawr o gyfleoedd dysgu digidol gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ddigidol, cymorth gwaith cartref, dylunio gwefannau, creu cynnwys a mwy.
Diolch i'r cysylltiad band eang newydd a'r Gronfa Cynhwysiant Digidol, bydd y clwb yn gallu darparu'r canlynol:
- Rhyngrwyd cyflym iawn
- Cyfrifiaduron modern a thechnoleg hygyrch fel dolenni clyw, allweddellau wedi'u haddasu a throshaenau sgrin
- Meddalwedd o safon y diwydiant
- Hyfforddiant digidol proffesiynol
- Cyfleoedd mewn meysydd sy'n dod i'r amlwg fel AI, realiti cymysg, dylunio graffeg, creu cynnwys a chodio
Bydd cynllun yr adeilad gan gynnwys neuadd chwaraeon, ystafell gyffredin, cegin a gofod astudio/dysgu i fyny'r grisiau, yn cefnogi datblygiad hwb digidol sy'n hygyrch i aelodau'r clwb, staff a grwpiau cymunedol ehangach.
Dywedodd Richard Canning o Glwb Bechgyn a Merched Castell-nedd:
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y Gronfa Cynhwysiant Digidol yn ogystal â 5 mlynedd o gysylltiad band eang am ddim. Bydd hyn yn creu cyfoeth o gyfleoedd i'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r ganolfan ac yn rhoi sgiliau digidol iddynt ar gyfer y dyfodol.Richard Canning, Club Bechgyn a Merched Cestedd-nedd
Er mwyn sicrhau atebolrwydd a mesur effaith, mae'r clwb eisoes wedi datblygu holiadur cynhwysiant digidol ar gyfer defnyddwyr yn awr ac yn y dyfodol. Er nad yw ar agor eto, mae'r clwb wedi dechrau cynnal gweithgareddau oddi ar y safle a ariennir gan grant, gan gynnwys creu ffilm dreftadaeth sy'n dogfennu hanes 100 mlynedd y clwb.
Trwy ddatblygu sgiliau modern a mynediad cyfartal at dechnoleg, nod Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd yw helpu i dorri cylchoedd tlodi daearyddol a digidol, gan rymuso pobl ifanc ym Melin, Dwyrain Castell-nedd a thu hwnt. Gyda chynlluniau i fod yn lleoliad amlswyddogaethol, mae clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd yn anelu at ddod â phobl at ei gilydd. Mae rhannu sgiliau rhwng y cenedlaethau yn rhan annatod o hyn. Mae cyn-aelodau yn gwirfoddoli i fentora pobl ifanc yn yr hwb, yn ogystal ag aelodau iau yn rhannu eu sgiliau â chyn-aelodau, gan feithrin cymuned gynhwysol.
Mae'r cysylltiadau band eang newydd a'r Gronfa Cynhwysiant Digidol yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yng ngwydnwch digidol Castell-nedd. Mae gan y sefydliad ymrwymiad i gael gwared ar rwystrau, gwella sgiliau ac ehangu cyfleoedd i bobl ifanc leol.
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot:
Dyma'r union fathau o fuddsoddiadau gwerth cymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mesuradwy yn ein cymunedau. Drwy gefnogi sefydliadau fel Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd, nid ydym yn gwella mynediad i'r rhyngrwyd yn unig, rydym yn rhoi'r offer sydd eu hangen arnynt i bobl ifanc lwyddo mewn byd digidol sy'n newid yn gyflym. Mae gan y clwb hanes hir o gefnogi pobl ifanc yn y maes hwnnw ac mae'n wych ein gweld ni'n eu helpu i barhau â'r gwaith hwn. Nid yw sgiliau digidol yn ddewisol rhagor; maent yn hanfodol ar gyfer addysg, cyflogaeth a bywyd bob dydd. Bydd y gefnogaeth hon yn helpu i sicrhau nad yw plant a theuluoedd lleol yn cael eu gadael ar ôl, a bydd yn cryfhau'r gymuned am flynyddoedd i ddod.Cynghorydd Jeremy Hurley, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Bydd Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd yn defnyddio eu cysylltedd a'u hadnoddau gwell i gefnogi cymunedau lleol, meithrin sgiliau gydol oes, a helpu i sicrhau bod gan bawb, waeth beth fo'u cefndir, yr hyder a'r gallu i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.
I ddysgu rhagor am beth mae Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd yn ei wneud, ewch i'w gwefan.