Mae data newydd ynghylch darpariaeth band eang yn dangos bod Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella cysylltedd digidol, a bellach mae mwy o gartrefi a busnesau'n gallu cael mynediad at wasanaethau rhyngrwyd cyflym a dibynadwy.
Mae'r ffigurau diweddaraf gan ThinkBroadband yn dangos cynnydd parhaus tuag at gysylltedd y genhedlaeth nesaf yn Sir Gaerfyrddin, ac mae tua 75% o eiddo bellach yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid a gwasanaethau ffeibr llawn.
Er bod y gwelliant hwn yn cael ei groesawu, mae'n adlewyrchu'r angen am gyfuniad parhaus o broses o'i gyflwyno'n fasnachol a rhaglenni ymyrraeth wedi'u targedu. Bydd mentrau fel Prosiect Gigadid Llywodraeth y DU, Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang y Rhaglen Seilwaith Digidol a chydweithio parhaus â menter Ymestyn Band Eang Cyflym (EHSB) Llywodraeth Cymru, yn helpu i ddarparu gwell cysylltedd i'r cymunedau anoddaf eu cyrraedd yn y sir a chryfhau gwytnwch digidol hirdymor.
Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn adlewyrchu buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith ffeibr ac yn dangos parodrwydd cynyddol Sir Gaerfyrddin ar gyfer arloesedd a gwasanaethau digidol yn y dyfodol.
Wrth i'r ffigurau hyn gynyddu, bydd nifer yr eiddo sy'n profi cyflymderau band eang araf iawn yn ei dro yn gostwng. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod llai na 2% o eiddo'n derbyn cyflymderau o dan 2mbps, ac mae ychydig o dan 5% yn parhau i fod yn is na'r trothwy o 10mbps o ran y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol. Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans o Gyngor Sir Caerfyrddin:
Mae'r data hwn yn dangos cynnydd gwirioneddol wrth gryfhau sylfeini digidol y sir. Mae mynediad at fand eang cyflym, dibynadwy yn hanfodol ar gyfer twf economaidd, darparu gwasanaethau cyhoeddus a chynhwysiant cymdeithasol, yn enwedig mewn sir sydd ag ôl troed gwledig mawr.Cynghorydd Hazel Evans, Cyngor Sir Gar
Mae gwelliannau o ran y ddarpariaeth wedi'u cyflawni drwy gyfuniad o fuddsoddiad masnachol a mentrau'r sector cyhoeddus dan arweiniad Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe Llywodraeth Cymru a'r DU, gyda chefnogaeth yr Hyrwyddwyr Digidol lleol, y mae eu cydweithrediad parhaus â darparwyr rhwydwaith a phartneriaid rhanbarthol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i sicrhau y rhoddir sylw i'r bylchau sy'n weddill.
I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd band eang yn eich ardal, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol.