Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi derbyn sgôr werdd yn ei Adolygiad Gateway diweddaraf, sy'n cadarnhau'r cynnydd da mae'n ei wneud o ran gwella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth.

Dyfarnodd tîm adolygu annibynnol y Swyddfa Cyflawni Prosiectau y sgôr uchaf posibl, gan ddweud bod cyflawni'n unol â'r amser, y gost a'r ansawdd yn debygol iawn, heb unrhyw broblemau mawrion yn effeithio ar gynnydd.

Bu i'r adolygiad ganmol ystwythder y rhaglen, y cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid, a rôl Hyrwyddwyr Digidol ym mhob awdurdod lleol, sy'n allweddol wrth ysgogi cyflawniad, gwaredu rhwystrau, a sicrhau bod buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a phreifat yn cyd-fynd.

Wrth edrych ymlaen, mae gwaith wedi dechrau eisoes i weld beth fydd dyfodol y rhaglen y tu hwnt i 2027, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd tymor hir ei phrosiectau ac effaith economaidd yn y rhanbarth.

Dywedodd Simon Davies, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo a'r Uwch-berchennog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen:

Rwy'n croesawu canfyddiadau Adolygiad Gateway ac rwy'n falch bod y Tîm Adolygu wedi cadarnhau bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyflawni'n llwyddiannus. Mae llywodraethu cryf, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a rheolaeth effeithiol wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant. Rwy'n ymfalchïo'n fawr yn yr effaith mae ein Swyddogion Ymgysylltu Band Eang a'n Rheolwyr Perthynas Cysylltedd Digidol wedi'i chael ar gefnogi cymunedau a busnesau ledled y rhanbarth.
Simon Davies, Cyngor Sir Gar