Mae PLANED wedi derbyn swm o £15,750 o'r Gronfa Cynhwysiant Digidol y byddant yn ei ddefnyddio i ddarparu dyfeisiau, hyfforddiant a chymorth sgiliau digidol yn y Ganolfan Byw'n Dda yng Nghaerfyrddin. Mae'r cyllid hwn wedi'i ddarparu fel rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol BT fel partner cyflenwi ar gyfer Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd y cyllid yn galluogi ehangu cyfleoedd cynhwysiant digidol yng Nghanolfan Byw'n Dda PLANED yng Nghaerfyrddin. Mae'r ganolfan yn cynnal dros 20 o brosiectau a sefydliadau ac yn croesawu mwy na 700 o bobl bob mis am gyngor, gweithgareddau grŵp, ymgynghoriadau, a chyfleoedd cynhwysol i'r gymuned gyfan.

Bydd y grant yn ariannu llechi newydd i gefnogi gweithgareddau yn y Ganolfan Byw'n Dda. Bydd y dyfeisiau hyn yn hwyluso sesiynau sgiliau digidol i bobl o bob cefndir, gan eu helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg ar gyfer tasgau bob dydd, boed hynny'n rheoli biliau y cartref ar-lein, trefnu apwyntiad meddyg teulu, cadw mewn cysylltiad â'r teulu trwy alwadau fideo, gwneud cais am swyddi, neu hyd yn oed archebu'r siopa wythnosol.

Yn ogystal, bydd sefydliadau partner yn derbyn hyfforddiant i greu cynnwys a fideos cyfryngau cymdeithasol diddorol i hyrwyddo'r gwasanaethau am ddim sydd ar gael yn y ganolfan yn well.

Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED:

Bydd y dyfeisiau newydd o fudd i'r holl brosiectau a sefydliadau yn y ganolfan, gan wella ansawdd sesiynau cymunedol a'u gwneud yn fwy hygyrch a chynhwysol. Byddant yn helpu pobl i ddatblygu hyder a sgiliau digidol, gan agor mynediad at wasanaethau a chyfleoedd hanfodol
Iwan Thomas, PLANED

Dywedodd Richard Anderson, Busnes ac Arloesi BT:

Dim ond rhan o'r ateb yw cysylltedd. Mae pobl hefyd angen y sgiliau a'r hyder i'w ddefnyddio. Trwy'r Gronfa Cynhwysiant Digidol, rydym yn falch o gefnogi PLANED i helpu cymunedau lleol i groesawu technoleg ddigidol a chael mynediad at y manteision y mae'n eu cyflwyno.
Richard Anderson, BT

Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydym yn falch iawn o weld PLANED yn derbyn y cyllid hwn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghaerfyrddin a thu hwnt. Mae sgiliau digidol yn hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Trwy gefnogi'r Ganolfan Byw'n Dda, rydym yn cryfhau cyfleoedd i'n cymunedau gysylltu, dysgu a ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.
Cynghorydd Hazel Evans, Cyngor Sir Gar

I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Byw'n Dda, ewch i wefan PLANED.
Cafwyd ymateb gwych i'r cyfle cyllido hwn gan elusennau a chwmnïau buddiant cymunedol, sy'n cynnig cyfoeth o brosiectau i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Er nad yw'n gallu cynnig cyllid i bawb a ymgeisiodd, mae Grant Cynhwysiant Digidol Cymru Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar agor ar gyfer ceisiadau tan 4pm ar 9 Chwefror 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar eu gwefan.