Wrth i 2025 ddirwyn i ben, mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn nodi blwyddyn o fomentwm, cydweithio a chynnydd ystyrlon i gymunedau ledled de-orllewin Cymru.
Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd lansio'r Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang, a fydd yn cyflwyno band eang ffeibr i fwy na 1,500 o safleoedd anodd eu cyrraedd ledled y rhanbarth. Mae'r buddsoddiad hwn yn gam mawr ymlaen i gau'r bwlch digidol, gan sicrhau bod mwy o gartrefi a busnesau yn gallu elwa ar well mynediad digidol.
Hefyd cyflawnodd y rhaglen waith uwchraddio i ffeibr llawn gwerth £1.9 miliwn ar draws 69 o safleoedd yn y sector cyhoeddus, gan ddarparu cysylltedd modern, diogel at y dyfodol ar gyfer llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, parciau gwledig a mannau cyhoeddus. Mae'r gwelliannau hyn eisoes yn helpu gwasanaethau i weithredu'n fwy effeithlon ac yn gwella'r profiad i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.
Mae'r prosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain ar fin cael ei gwblhau, gan gysylltu safleoedd strategol yn y sector cyhoeddus yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a darparu cysylltedd gwydn a diogel i'r awdurdodau lleol, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a byrddau iechyd lleol.
Cafodd prosiect Ffeibr Tywyll Sir Gaerfyrddin ei ddyfarnu yn ôl ym mis Mawrth. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ac mae hanner y 41 o gysylltiadau ar draws adeiladau allweddol yn y sector cyhoeddus eisoes wedi'u cwblhau. Mae buddsoddiad y ddau brosiect hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaethau mwy clyfar, rhannu data'n ddi-dor, a chymwysiadau digidol arloesol mewn iechyd, addysg a llywodraeth leol.
Mae Cronfa Arloesi 5G y Rhaglen wedi cefnogi gweithgarwch sy'n dod i'r amlwg ym maes iechyd, llesiant ac addysg ledled y rhanbarth, gan ehangu signal 5G a datgloi potensial seilwaith digidol newydd. Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae amrywiaeth o achosion defnydd arloesol wedi'u cyflwyno, gan olygu bod y rhanbarth ar flaen y gad o ran arloesi a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twf economaidd.
Mae gan bob un o’r pedair sir well cysylltiad erbyn hyn yn sgil partneriaethau cymunedol ffeibr a chynlluniau masnachol, gan ddarparu band eang ffeibr ar gyfer mwy o gartrefi nag erioed.
Y tu hwnt i adeiladu rhwydweithiau, mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar greu effaith barhaol gan weithio gyda chyflenwyr i gyflawni amrywiaeth o fentrau gwerth cymdeithasol gyda'r nod o wella cynhwysiant digidol. Mae wedi darparu band eang am ddim i elusennau cofrestredig a Chwmnïau Buddiant Cymunedol ledled y rhanbarth i'w helpu o ran eu gweithgareddau yn ogystal ag ariannu dyfeisiau mawr eu hangen. Mae'r ymdrechion hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu dyfodol digidol cynhwysol i bobl a chymunedau lleol.
Diolch o galon i'r holl bartneriaid o ran y rhaglen, cyflenwyr a seilwaith yn ogystal â thimau ymroddedig Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU y mae eu hymrwymiad a'u cydweithrediad wedi bod yn hanfodol wrth gyflymu'r gwaith cyflawni a sicrhau ei fod o fudd i gymunedau ledled y rhanbarth.
Wrth edrych ymlaen at 2026, mae’r rhaglen yn dechrau’r flwyddyn newydd gydag egni, optimistiaeth ac uchelgais ar y cyd i adeiladu ar lwyddiannau 2025.