Bydd y prosiect gwerth £10+miliwn yn dod â band eang ffeibr llawn i 1533 o adeiladau a 256 o safleoedd ychwanegol ar draws y pedair sir yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe: Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect hwn yn targedu'n benodol adeiladau sydd â chyflymder band eang o lai na 30Mbps ar hyn o bryd ac nad ydynt mewn cwmpas ar gyfer unrhyw ymyriadau presennol gan y llywodraeth fel Prosiect Gigabit neu ran o gynlluniau adeiladu masnachol.
Mae hyn yn ymateb i'r her o lefelu'r bwlch cysylltedd sy'n cael ei gydnabod yn eang.Mae'r cartrefi a'r busnesau sydd wedi'u cynnwys yn bennaf mewn ardaloedd gwledig, anoddach eu cyrraedd lle mae'r gost i ddarparu gwasanaethau band eang cyflymach yn sylweddol uwch. Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae'r prosiect hwn yn newid pethau i'n rhanbarth. Trwy ddod â rhyngrwyd cyflym iawn i ardaloedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl, rydym ni'n gwella ansawdd bywyd ond rydym ni hefyd yn cyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol. Nid yw mynediad at fand eang dibynadwy bellach yn foethusrwydd; mae'n angenrheidiol. Bydd y prosiect hwn yn sicrhau y gall pawb yn rhanbarth Bae Abertawe gymryd rhan lawn yn yr oes ddigidol.Cynghorydd Rob Stewart, Cynghor Abertawe
Dywedodd Susi Marston, Pennaeth Sector Cyhoeddus Cymru, BT:
Mae cysylltedd wrth wraidd sut mae pobl yn byw ac yn gweithio heddiw ond mae hynny'n dibynnu ar gael y seilwaith cywir ar waith. "Bydd y Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang yn gwella gwasanaethau i filoedd o bobl ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe a fydd yn elwa o gysylltedd o'r radd flaenaf hyd yn oed mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd.Susi Marston, BT
Disgwylir i'r Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang ddechrau y mis hwn a bydd yn parhau i gael ei gyflwyno ledled y rhanbarth dros chwe cham, gyda'r 220 safle cyntaf wedi'u cysylltu erbyn mis Rhagfyr eleni a dyddiad cwblhau o 31 Mawrth 2027.
I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd band eang yn eich ardal, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol am ragor o fanylion.