Ein hasesiad
-
Ein datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: digital@swanseabaycitydeal.wales
Datblygwyd y wefan hon gan Tinint ac fe'i rheolir gan dîm y Rhaglen Seilwaith Digidol. Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb golli'r testun ar ochrau'r sgrîn
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
-
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Datblygwyd y wefan hon i gydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Mae'r wefan yn defnyddio Google Maps, ewch i'w canolfan gymorth i gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd Google Maps.
-
Adborth, rhoi gwybod am faterion a cheisiadau am fformat arall
Os ydych chi'n teimlo y gallwn wella hygyrchedd y wefan hon mewn unrhyw ffordd, yna byddem yn gwerthfawrogi eich bod yn rhoi gwybod i ni drwy e-bost. Byddwn yn ymateb i bob ymholiad o fewn 10 diwrnod.
Neu, os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch hefyd ofyn am hyn drwy e-bost.
-
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
-
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Datblygwyd y wefan hon gan Tinint gan ddefnyddio fersiwn 13.5.1 o Umbraco. Rheolir y cynnwys gan dîm y Rhaglen Seilwaith Digidol.
-
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
-
Cymwysiadau Trydydd Parti
Rydym yn mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd yr ydym yn eu comisiynu ar gyfer gwefan y Rhaglen Seilwaith Digidol yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Fodd bynnag, ac eithrio Google Maps, nid oes gennym unrhyw systemau neu apiau trydydd parti sy'n gysylltiedig â'r wefan hon ar hyn o bryd.
-
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
-
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn monitro ein gwefan gan ddefnyddio Silktide ac yn defnyddio'r cwmni i nodi a thrwsio unrhyw faterion hygyrchedd. Rydym yn ymateb i'r holl adborth a byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion hygyrchedd a godir.
-
Sut rydyn ni'n profi'r wefan hon
Mae'r wefan hon yn cael ei phrofi'n wythnosol gan Silktide. Mae pob tudalen o'r wefan yn cael ei phrofi ac rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud gwelliannau parhaus.
Paratowyd y datganiad hwn ar 13 Tachwedd 2024.