Mae buddsoddiad o £1.55 miliwn gan Gronfa Arloesi 5G y Rhaglen Seilwaith Digidol wedi galluogi cyflwyno seilwaith 5G gwell ar draws campysau Prifysgol Abertawe a safleoedd ysbytai lleol.
Mae'r sylfaen ddigidol hon yn sail i'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd, amgylchedd ymchwil ac arloesi cyntaf y byd sy'n canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth, llesiant a pherfformiad.
Yn ogystal â chefnogi ymchwil arloesol ac arloesi digidol, mae gan y rhwydwaith 5G fanteision i gymunedau ledled y rhanbarth.
Fel rhan o ymrwymiad y prosiect i werth cymdeithasol, mae Vodafone wedi rhoi 3,000 o gardiau SIM i helpu i daclo tlodi data. Mae'r rhain yn cael eu dosbarthu gan Brifysgol Abertawe i'r unigolion a'r teuluoedd sydd fwyaf mewn angen, gan alluogi mynediad at wasanaethau ar-lein hanfodol, addysg a gofal iechyd.
Trwy bartneriaeth elusennol Vodafone gyda'r Good Things Foundation, gall pobl gael mynediad at ffonau clyfar, llechi a gliniaduron trwy'r banc dyfeisiau cenedlaethol, sy'n darparu dyfeisiau wedi'u hadnewyddu i unigolion nad oes ganddynt fynediad fel arall o bosibl. Gyda mwy na 30 o leoliadau ar draws Rhanbarth Bae Abertawe yn rhan o'r rhwydwaith cynyddol hwn, mae'r gefnogaeth hon eisoes yn gwneud gwahaniaeth, gan helpu pobl i gadw mewn cysylltiad, meithrin hyder digidol, ac achub ar gyfleoedd newydd. Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Abertawe, Prifysgol Abertawe:
Dim galluogi arloesi yn unig mae'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith 5G yn ei wneud, ond creu cyfleoedd. Trwy wella mynediad digidol, rydyn ni'n helpu pobl i arwain bywydau iachach, mwy cysylltiedig.Athro Keith Lloyd, Prifysgol Abertawe