Mae Canolfan Byw'n Dda Sir Gaerfyrddin yn ganolfan fyrlymus sy'n croesawu mwy na 700 o bobl bob mis. Mae'r Ganolfan yn darparu cyngor am ddim, dosbarthiadau llesiant, gweithgareddau cymdeithasol ac ymgynghoriadau.
Wrth i wasanaethau ar-lein ddod yn fwyfwy berthnasol i fywyd pob dydd, mae'r ganolfan yn adeiladu ar ei chenhadaeth i helpu pobl trwy ddefnyddio Cronfa Cynhwysiant Digidol BT i ddarparu llechi newydd ar gyfer sesiynau sgiliau digidol. Bydd y sesiynau hyn yn helpu pobl i fagu hyder a datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer tasgau dyddiol; o reoli biliau cartref a threfnu apwyntiadau meddygon teulu i archebu bwydydd, cadw mewn cysylltiad â'r teulu trwy alwadau fideo, a gwneud cais am swyddi.
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED:
Bydd y dyfeisiau newydd yn gwella ansawdd sesiynau cymunedol, gan helpu pobl i fagu hyder i ddefnyddio technoleg a chael mynediad agored i wasanaethau hanfodol.Iwan Thomas, PLANED
Mae cael sgiliau digidol bellach yn angenrheidiol yn ein cymdeithas a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i gyflwyno gweithdai perthnasol, sy'n seiliedig ar sgiliau, ynghyd â mynd i'r afael ag allgáu digidol ledled Sir Gaerfyrddin.
Bydd sefydliadau partner yn y ganolfan hefyd yn derbyn hyfforddiant marchnata digidol a sgiliau i'w helpu i hyrwyddo'r ystod eang o wasanaethau am ddim sydd ar gael.
Mae'r buddsoddiad hwn gan BT yn rhan o'i ymrwymiad gwerth cymdeithasol drwy'r Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang.
I gael rhagor o wybodaeth am beth y mae Canolfan Byw'n Dda Sir Gaerfyrddin yn ei gynnig a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i'w gwefan.