Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Faith in Families

Cronfa Cynnwys Digidol

Mae Faith in Families yn elusen sy'n ymro i gefnogi teuluoedd sy'n profi tlodi, argyfwng, trawma ac anfantais ledled Abertawe. Mae'r sefydliad yn helpu pobl i feithrin gwytnwch, yn darparu mynediad at wasanaethau hanfodol ac yn creu cyfleoedd ar gyfer eu dyfodol.

Dyfarnwyd Cronfa Cynhwysiant Digidol i'r elusen, a ddarparwyd gan BT fel rhan o ymrwymiad gwerth cymdeithasol y busnes drwy'r Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang, a fydd yn helpu i gefnogi preswylwyr i feithrin sgiliau digidol a hyder.

Bydd y buddsoddiad o £15,750 yn cael ei ddefnyddio i brynu gliniaduron ac i ariannu rhaglen gymunedol wyth wythnos o hyd o'r enw 'Gweithio'n Ddiogel, Sgiliau Gwybodaeth Digidol a Chyfathrebu Hyderus', sydd wedi'i chynllunio i helpu trigolion Bon-y-maen, y Clâs a Phortmead i ennill sgiliau digidol ymarferol a dod yn fwy hyderus ar-lein.

Yn ystod y rhaglen, bydd 30 o gyfranogwyr lleol yn cymryd rhan mewn sesiynau dan arweiniad a fydd yn eu helpu o ran y canlynol:

· datblygu sgiliau digidol hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd

· magu hyder o ran defnyddio offer a gwasanaethau ar-lein

· symud yn agosach at gyfleoedd gwirfoddoli, dysgu a chyflogaeth

Er gwaethaf dibyniaeth gynyddol ar offer ar-lein ar gyfer gwaith, gwasanaethau a chysylltiadau, mae allgáu digidol yn parhau i effeithio ar lawer o deuluoedd. Mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny yn uniongyrchol trwy ddarparu gliniaduron i gyfranogwyr eu defnyddio yn ystod y cwrs, cymorth o ran cysylltedd a mynd ar y rhyngrwyd a chanllawiau digidol un i un wedi'u teilwra ar gyfer y rhai sydd angen help ychwanegol.

Bydd y gliniaduron yn aros yn y canolfannau cymunedol lleol ar ôl i'r rhaglen ddod i ben, gan greu adnodd cynaliadwy ar gyfer dysgu parhaus, chwilio am swyddi a chymorth i deuluoedd.
Bydd cynnwys y cwrs ac arbenigedd darparu yn cael ei ymgorffori yn y sefydliad, gan alluogi staff i barhau i gynnig hyfforddiant sgiliau digidol yn y dyfodol.

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol cyfarwydd, dibynadwy, gan helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i deimlo'n gyfforddus ac wedi'u cefnogi, yn ogystal ag ennyn eu diddordeb.

Sesiwn Faith in Families
Mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi cyfle i ni feithrin hyder digidol mewn cymunedau lle gall mynediad yn aml deimlo allan o gyrraedd. Trwy uno sgiliau digidol ymarferol a hyder a chymorth o ran cyfathrebu, rydyn ni'n helpu teuluoedd nid yn unig i gysylltu ar-lein, ond i symud ymlaen gyda mwy o annibyniaeth a chyfleoedd.
Natasha Cardone, Faith in Families

I ddysgu rhagor am Faith in Families ac i ddod o hyd i'ch canolfan gymunedol agosaf, ewch i'w gwefan.

Gwerth cymdeithasol mewn partneriaeth â

Rydym yn defnyddio cwcis I wella eich profiad, personoleiddio cynnwys, a dadansoddi traffig gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.