Mae Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd yn cynnig lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed yn y gymuned leol. Mae'r clwb yn cynnig gweithgareddau, cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a chysylltu ag eraill.
Drwy ymrwymiadau gwerth cymdeithasol sy'n gysylltiedig â phrosiectau a ariennir gan gyllid cyfalaf o fewn Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dyfarnwyd Cronfa Cynhwysiant Digidol gwerth £15,575 a ddarparwyd gan BT i'r clwb.
Bydd y cyllid yn helpu i drawsnewid y clwb yn hwb ieuenctid modern sydd â darpariaeth ddigidol. Gyda chysylltedd gwell ac offer newydd, bydd y clwb yn gallu cynnig mynediad cyflym i'r rhyngrwyd, cyfrifiaduron modern, meddalwedd safon diwydiant ac ystod o gyfleoedd dysgu digidol, gan gynnwys dylunio gwefannau, creu cynnwys, codio a thechnolegau datblygol, fel deallusrwydd artiffisial a realiti cymysg.
Mae'r sefydliad yn falch iawn o dderbyn y cyllid a'r cymorth o ran cysylltedd a fydd yn creu cyfleoedd newydd i'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r ganolfan ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau digidol pwysig ar gyfer y dyfodol.Aline Valleron, Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd
Drwy wella mynediad at dechnoleg a dysgu digidol, mae'r clwb yn gobeithio cefnogi pobl ifanc ym Melin, Dwyrain Castell-nedd a'r cymunedau cyfagos i ennill y sgiliau, yr hyder a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.
I gael gwybod mwy am Glwb Bechgyn a Merched Castell-nedd, ewch i'r wefan.