Mae Christchurch wedi sefyll yng nghanol Sandfields ers 1872, gan geisio dod â gobaith, cariad a heddwch, a chynnig cefnogaeth gadarn i'r gymuned leol ers cenedlaethau. O gysylltiadau cryf ag ysgolion cynradd cyfagos i'w rôl fel eglwys garsiwn sy'n cefnogi'r lluoedd arfog, mae Christchurch yn parhau i fod yn lle llawn croeso, cysylltiad a gofal.
Heddiw, mae Christchurch yn tyfu ac felly hefyd ei gweledigaeth. Mae amrywiaeth eang o grwpiau a gweithgareddau eisoes yn cael eu cynnal ar y safle ac mae'r eglwys bellach yn ceisio ehangu ei chyrhaeddiad a chael mwy o effaith. O glybiau ieuenctid a grwpiau plant bach i'r hwb cyn-filwyr, caffi cymunedol a sesiynau crefft, mae'r eglwys yn dod yn ganolfan fywiog sy'n cynnig cymorth i bobl o bob oedran a chefndir.
Mae cyflwyno pum mlynedd o fand eang am ddim, a ddarperir gan Virgin Media O2 fel rhan o brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain, yn helpu Christchurch i gymryd cam sylweddol ymlaen. Mae'r cyfraniad hwn yn rhan o'r gwerth cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Seilwaith Digidol, ac mae eisoes yn creu posibiliadau newydd ar gyfer cynhwysiant, hyfforddiant a chymorth digidol.
Dywedodd y Parchedig Mark Thomas:
Mae cael band eang cyflym yn Christchurch eisoes yn trawsnewid yr hyn y gallwn ni ei gynnig. Mae'n ein helpu i gefnogi pobl yn fwy effeithiol - boed hynny drwy sesiynau cerddoriaeth ddigidol i blant, arweiniad budd-daliadau ar-lein, neu allu ffrydio gwasanaethau a digwyddiadau. Mae'n gam enfawr ymlaen o ran ein nod i fod yn ganolfan gymorth i'r gymuned leol.Y Parchedig Mark Thomas, Christchurch Abertawe
Gyda band eang ar waith, mae Christchurch yn datblygu:
● Ffrwd cynhyrchu cerddoriaeth ddigidol i blant fel rhan o'i rhaglen newydd Music for All
● Agwedd ddigidol ar ei chlwb ieuenctid Open to All a grŵp plant bach
● Hwb cyn-filwyr sydd bellach yn fan cynnes swyddogol
● Caffi cymunedol gyda bwrdd anghenion arbennig pwrpasol a chaffi crefft
● Cynlluniau i gefnogi ysgolion lleol drwy glybiau ar ôl ysgol a rhaglenni gwyliau ysgol
● Sesiynau newydd ar gyfer cyngor ariannol, cymorth cyflogaeth, arweiniad budd-daliadau, a hyfforddiant TG, mewn cydweithrediad â'r Good Things Foundation
● Galluoedd digidol gwell ar gyfer gwasanaethau'r eglwys, ffrydio ar-lein, nosweithiau ieuenctid a myfyrwyr, diwrnodau hwyl i'r teulu, a digwyddiadau tymhorol
Gyda chysylltedd bellach ar waith, mae Christchurch mewn sefyllfa dda i dyfu ei rôl fel man dibynadwy, cynhwysol lle mae mynediad digidol yn cefnogi newid go iawn ac yn cryfhau gwead y gymuned leol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.