Mae Canolfan Gymunedol De Penlan yn lle croesawgar yng nghanol y gymdogaeth, sy'n cynnig cefnogaeth ymarferol, cynhesrwydd a chysylltiad i bobl o bob oedran. O chwilio am swyddi a cheisiadau am fudd-daliadau i addysg blynyddoedd cynnar a llesiant cymunedol, mae'r ganolfan yn chwarae rhan bwysig ym mywyd bob dydd.
Diolch i'r Rhaglen Seilwaith Digidol, mae gan y ganolfan bellach fynediad at bum mlynedd o fand eang am ddim, a ddarperir gan Virgin Media O2 fel rhan o brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain. Mae'r cyfraniad hwn yn rhan o'r gwerth cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu ledled Abertawe, gan helpu mannau cymunedol fel De Penlan i ehangu gwasanaethau a chyrraedd mwy o bobl. Meddai Annaliese Gower, Rheolwr Adeilad:
Mae cael mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd yn golygu y gall pobl sy'n defnyddio ein canolfan chwilio am swyddi, cwblhau ceisiadau, gwneud taliadau ar-lein a chael y cymorth digidol sydd ei angen arnynt. Mae hefyd yn helpu ein banc bwyd i gynnig mwy o gefnogaeth gydlynol a rhoi mynediad i blant ein Cylch Meithrin at adnoddau dysgu digidol sy'n gwella eu profiad o'r byd.Annaliese Gower, Canolfan Gymunedol De Penlan
Mae'r cysylltiad band eang eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Gall grwpiau sy'n defnyddio'r ganolfan bellach gael mynediad i'r rhyngrwyd i gefnogi'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, boed hynny'n helpu rhywun i wneud cais am waith, cynnig arweiniad ariannol, neu greu lle mwy cysylltiedig a chynhwysol.
Gyda mynediad digidol bellach ar waith, mae Canolfan Gymunedol De Penlan gyda gwell adnoddau i ddiwallu anghenion y gymuned gan gynnig cymorth ymarferol, cyfleoedd dysgu, a chroeso cynnes i bawb sy'n cerdded drwy'r drysau.