Mae Banc Bwyd Abertawe yn achubiaeth i unigolion a theuluoedd ledled y ddinas, ac mae'n cynnig bwyd, cymorth lles, a lle cynnes a chroesawgar ar adegau argyfyngus. Trwy ei saith canolfan ddosbarthu, mae'r banc bwyd yn darparu gwasanaethau hanfodol mewn lleoliadau sy'n amrywio o neuaddau cymunedol i fannau allgymorth pwrpasol.
Nid oedd gan rai canolfannau, fel Canolfan Gymunedol Mayhill, fynediad i'r rhyngrwyd. Roedd hyn yn cyfyngu ar y gallu i helpu pobl i hawlio budd-daliadau ar-lein a gwneud tasgau digidol hanfodol i sefydlogrwydd ariannol. Dywedodd Simon Powell, sy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Abertawe:
Mae'r gallu i gael mynediad i hawliadau budd-daliadau ar-lein a'u diweddaru - ac i ddysgu pobl sut i gadw ati i hawlio eu hunain - yn hollbwysig i'n gwaith. Mae'n dod ag arian angenrheidiol i'r economi leol ac yn helpu pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau unwaith yn rhagor. Doedd gyda ni ddim mynediad i'r rhyngrwyd yn Mayhill o'r blaen, ond mae cyflwyno band eang wedi gwneud gwahaniaeth yn barod - mae'n gadael i'n hymgynghorwyr weithio'n fwy effeithlon a helpu cleientiaid i gwblhau ffurflenni digidol a chael cymorth go iawn.Simon Powell, Banc Bwyd Abertawe
Yn 2024 yn unig, helpodd ymgynghorwyr budd-daliadau lles Banc Bwyd Abertawe bobl leol i gael £568,002 mewn enillion incwm wedi'u cadarnhau; £94,804 yn chwarter olaf y flwyddyn. Adlewyrcha'r ffigurau hyn effaith drawsnewidiol mynediad digidol ar incwm aelwydydd a llesiant cymunedol.
Fel rhan o brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain, mae Virgin Media O2 yn darparu band eang am ddim am bum mlynedd i wyth elusen neu Gwmni Buddiant Cymunedol yn Abertawe. Mae hon yn elfen allweddol o'r gwerth cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Seilwaith Digidol, gan alluogi sefydliadau fel Banc Bwyd Abertawe i gynnig cymorth mwy effeithiol a helpu pobl leol i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Bydd cael band eang mewn canolfannau cymunedol nid yn unig yn cefnogi gwaith Banc Bwyd Abertawe ond hefyd o fudd i'r gymuned ehangach. Mae amryw weithgareddau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos yng Nghanolfan Gymunedol Mayhill, o grwpiau rhieni a phlant bach i ddosbarthiadau ymarfer corff, clybiau garddio, a sesiynau monitro iechyd. Bydd mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd yn gwella'r holl wasanaethau hyn, gan wneud canolfannau'n fwy cynhwysol a chymwys yn ddigidol.
Mae Banc Bwyd Abertawe yn rhan o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell, gan ddefnyddio ei system casglu data i fonitro patrymau defnyddio, rhesymau dros ymweld â banciau bwyd, maint teuluoedd, ac amlder yr angen. Mae'r data hwn yn helpu i lunio gwasanaethau ymatebol ac i ddadlau dros newid y system.
Drwy wella cysylltedd mewn ardaloedd heb wasanaeth cyflawn, mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn helpu Banc Bwyd Abertawe i ddarparu cymorth mwy effeithiol, lleihau allgáu digidol, a galluogi unigolion i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny gydag urddas ac annibyniaeth.
I gysylltu â Banc Bwyd Abertawe, ewch i’w gwefan.