Trosolwg
Mae Virgin Media O2 Business wedi cael ei benodi i greu rhwydwaith ffeibr tywyll pwrpasol i 34 o safleoedd sector cyhoeddus yn Llanelli, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd y rhwydwaith newydd yn gwella cysylltedd yn y rhanbarth i awdurdodau lleol, gofal iechyd a phartneriaid addysg.
Bydd y rhwydwaith newydd hwn, a fydd ar gael yn llawn erbyn mis Rhagfyr 2025, yn cynnig gwell capasiti a chyflymder a bydd yn caniatáu i lawer iawn o ddata gael ei rannu a'i gadw'n ddiogel, gan alluogi cydweithio a helpu i wella gwasanaethau mewnol ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Bydd y seilwaith newydd hwn yn diogelu i’r dyfodol alluoedd digidol Ymddiriedolaeth Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a'r tri awdurdod lleol – Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gaerfyrddin.
Gan ddarparu hyblygrwydd, bydd yn darparu ystod o fanteision i wella ymchwil a datblygu yn seiliedig ar iechyd ac addysg. Hefyd, bydd y rhwydwaith yn helpu i hybu arloesodd i ddiwallu anghenion y sector cyhoeddus sy'n esblygu, yn ogystal â'r cymunedau a'r busnesau y maent yn eu cefnogi.
Dywedodd Carl Mustad, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technoleg Ddigidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Mae hwn yn gam hanfodol i’r byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phrifysgolion yn yr ardal hon a bydd yn ein helpu i gydweithio ac ehangu ein perthnasoedd ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Mae rhwydweithiau modern yn hanfodol i ddarparu'r asgwrn cefn ar gyfer gwasanaethau telefeddygaeth flaengar, deallusrwydd artiffisial a rheoli data yn well sydd yn ei dro yn cefnogi gwelliannau mewn diagnosteg, a phrofiad cleifion.Carl Mustad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Amcanion y prosiect
-
1
Cysylltedd diogelu at y dyfodolMae gan y rhwydwaith newydd hwn y gallu i ateb y galw cynyddol am ddata a gwell gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion newidiol pobl, cleifion, cwsmeriaid, sefydliadau a chymunedau.
-
2
Hybu arloeseddBydd ffibr pwrpasol yn galluogi’r sector cyhoeddus i brofi a defnyddio technolegau newydd heb gyfaddawdu ar gyflymder darparu a chynnal y gwasanaethau presennol.
-
3
Gwella cydweithrediadRoedd cydweithio yn y dyfodol rhwng llywodraeth leol, iechyd ac addysg yn brif sbardun i'r prosiect hwn, gan eu galluogi i rannu cryn dipyn o ddata mewn ffordd hynod o ddiogel gyda'r gallu i ddadansoddi'r data hwnnw mewn amser real, i helpu i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata.