Trosolwg
Bydd y prosiect yn cyflwyno cysylltedd ffeibr llawn i 69 o safleoedd sector cyhoeddus sydd angen gwell seilwaith, gan ddarparu rhwydwaith cyflym, dibynadwy, wedi'i ddiogelu i'r dyfodol i fodloni gofynion digidol cynyddol a chefnogi agendâu trawsnewid digidol ehangach y sector cyhoeddus.
Mae seilwaith ffeibr llawn yn darparu'r sylfaen i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus, gan arwain at well profiadau i breswylwyr a busnesau, arbedion effeithlonrwydd ac arbedion cost i bartneriaid, a'r potensial ar gyfer cymwysiadau digidol arloesol fel realiti estynedig (AR) a phrofiadau realiti rhithwir (VR) i'w datblygu mewn lleoliadau twristiaeth allweddol fel Parc Gwledig Pen-bre a Pharc Gwledig Margam.
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni ar y cyd â BT drwy Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) Llywodraeth Cymru. Mae PSBA yn cysylltu sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru â Rhwydwaith Ardal Eang preifat a diogel, sy'n cynnig gwasanaeth a reolir yn llawn sy'n gwella cysylltedd hanfodol i fusnes, ac sy'n caniatáu i sefydliadau elwa o wasanaethau rhwydwaith arloesol, cost-effeithiol a chadarn sy'n sbarduno cynhyrchiant. Mae buddiolwyr y prosiect yn cynnwys pob un o'r pedwar awdurdod lleol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Dywedodd Simon Davies, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd hefyd yn cadeirio'r Bwrdd Rhaglen Seilwaith Digidol:
Mae uwchraddio'r lleoliadau hyn i gael seilwaith ar gyfradd gigabit yn hanfodol ar gyfer eu ffyniant yn y dyfodol. Mae angen i'n partneriaid rhanbarthol yn y sector cyhoeddus symud ymlaen gyda'u defnydd o dechnoleg ddigidol i sicrhau y gellir cynnig y profiadau gorau ac mae'r prosiect hwn yn rhan werthfawr o gyflawni hynny.Simon Davies, Cyngor Sir Caerfyrddin
Bydd tua 425 o adeiladau preswyl a busnes yn elwa ar fand eang gwell o ganlyniad i'r prosiect hwn, gan ysgogi buddsoddiad masnachol pellach a chyflymu'r broses o gyflwyno rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhanbarth.
Bydd y buddsoddiad ar y cyd hwn o £2 filiwn gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru yn darparu uwchraddiadau hanfodol i seilwaith a fydd yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr a busnesau, yn denu buddsoddiad newydd, ac yn ysgogi twf economaidd.
Amcanion y Prosiect
-
1
Diogelu safleoedd allweddol at y dyfodolSicrhau bod gan ein hasedau yn y sector cyhoeddus gysylltedd cadarn am o leiaf yr 20 mlynedd nesaf i ddiwallu anghenion digidol cynyddol a chaniatáu mabwysiadu technolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg.
-
2
Trawsnewid digidolDarparu'r seilwaith digidol sylfaenol sydd ei angen ar safleoedd i fabwysiadu technolegau a dulliau gweithredu modern, gan arwain at wasanaethau cyhoeddus cyflymach, mwy cyfleus o ansawdd uwch.
-
3
Arbed costauMae ffeibr llawn yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy sy'n golygu llai o waith cynnal a chadw, gan ganiatáu i arbedion gael eu hailfuddsoddi i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
-
4
Ysgogi buddsoddiadCaniatáu i'r farchnad fuddsoddi ymhellach ar draws y rhanbarth a chyflymu'r broses gyflwyno, gan ddod â chysylltedd ffeibr llawn i fwy o breswylwyr a busnesau.