Trosolwg
Mae'r Cynllun Talebau Band Eang Gigadid (GBVS) yn rhan o Brosiect Gigadid Llywodraeth y DU. Gall cartrefi a busnesau cymwys roi eu taleb i'r cyflenwr sy'n arwain y prosiect yn eu cymuned a fydd yn talu hyd at £4,500 o gost adeiladu cysylltiad gigadid ar gyfer pob safle yn y cynllun prosiect a gymeradwywyd.
Mae ein timau'n gweithio gyda nifer o gymunedau sy'n rhan o brosiectau cynllun talebau presennol, gan gynnig cyngor diduedd a chymorth. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd â Thîm Building Digital y DU Llywodraeth y DU a'r cyflenwyr sy'n cyflawni'r prosiectau hyn i drafod unrhyw faterion, ac i sicrhau bod y prosiectau yn cael eu cyflwyno mor llyfn â phosibl.
Nid yw'r cynlluniau talebau yn derbyn ceisiadau newydd yn ein rhanbarth ar hyn o bryd wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau pa safleoedd fydd yn cael eu huwchraddio drwy gontractau yn fframwaith traws-ranbarthol Prosiect Gigadid.
Pa brosiectau sy'n cael eu cyflawni ym mhob sir...
-
Sir Gaerfyrddin
Bydd y prosiectau a amlinellir isod yn cysylltu gymunedau mwyaf gwledig Sir Gaerfyrddin, gan roi mynediad iddynt at fand eang cyflym a dibynadwy.
Cymuned Cyflenwr Maint y prosiect Statws Glanyfferi Openreach 720 o safleoedd Yn cael ei adeiladu Pentywyn Openreach 477 o safleoedd Ar agor am addewidion Llansteffan Openreach 601 o safleoedd Ar agor am addewidion Bancyfelin Openreach 325 o safleoedd Ar agor am addewidion Llanpumsaint Openreach 171 o safleoedd Ar agor am addewidion Pont-iets Openreach 1,763 o safleoedd Ar agor am addewidion Maesycrugiau Openreach 104 o safleoedd Ar agor am addewidion Llandysul Openreach 339 o safleoedd Ar agor am addewidion Velindre Openreach 1,012 o safleoedd Ar agor am addewidion Cwm-twrch Openreach 132 o safleoedd Ar agor am addewidion Llanllwni Openreach 32 o safleoedd Cyflawn Pumsaint Openreach 19 o safleoedd Cyflawn Llandybie: Derwydd Openreach 64 o safleoedd Cyflawn Cwm Cothi / Brechfa Openreach 20 o safleoedd Cyflawn Llanybydder WeFibre 355 o safleoedd Cyflawn Llanymddyfri WeFibre 925 o safleoedd Cyflawn -
Sir Benfro
Bydd y prosiectau a amlinellir isod yn cysylltu gymunedau mwyaf gwledig Sir Benfro, gan roi mynediad iddynt at fand eang cyflym a dibynadwy.
Cymuned Cyflenwr Maint o prosiect Statws Aberllydan Openreach 917 o safleoedd Yn cael ei adeiladu Dale Openreach 674 o safleoedd Cyflawn Caeriw Openreach 752 o safleoedd Yn cael ei adeiladu Llandyfái Openreach 815 o safleoedd Yn cael ei adeiladu Maenorbŷr Openreach 1,162 o safleoedd Yn cael ei adeiladu Dinas Cross Openreach 429 o safleoedd Yn cael ei adeiladu -
Castell-nedd Port Talbot
Mae Openreach wedi cynllunio prosiect Partneriaeth Gymunedol Ffeibr ar gyfer ardal Cwm-twrch Uchaf. Bydd hyn yn cysylltu 246 o safleoedd yn y sir.