Trosolwg
Mae datblygu rhwydweithiau symudol cyflym wedi dod yn sbardun hanfodol o ran twf economaidd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cysylltedd digidol yn hanesyddol wedi bod y tu ôl i ganolfannau trefol.
Un o'r mentrau mwyaf arwyddocaol yn y DU i fynd i'r afael â'r bwlch hwn yw'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN). Mae'r fenter gydweithredol hon rhwng llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydwaith symudol wedi cael effaith sylweddol ar wella signal ffonau symudol mewn ardaloedd sy'n cael eu tan-wasanaethu . Ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys ardaloedd gwledig iawn fel Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir wedi newid pethau. Bydd y cynnydd hwn mewn signal 4G yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a thechnolegol i'r rhanbarth.
Y syniad craidd y tu ôl i'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yw adeiladu seilwaith newydd a rennir, gan ganiatáu i'r pedwar rhwydwaith symudol yn y DU: EE, O2, Three, a Vodafone ymestyn eu gwasanaeth i ardaloedd mwy gwledig heb yr angen i ddyblygu seilwaith neu achosi costau diangen.
Mae'r diffyg signal ffonau symudol cadarn mewn rhannau gwledig o'n rhanbarth wedi creu heriau sylweddol i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr, yn enwedig mewn sectorau sy'n dibynnu ar gysylltedd, fel twristiaeth, amaethyddiaeth a gweithio o bell.
Mae Richard Walters a Patrick Hannon, Rheolwyr Cydberthnasau Cysylltedd Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro, wedi bod yn hwyluso'r rhaglen waith hon yn eu siroedd priodol, gan gysylltu rhwng y gweithredwyr rhwydwaith symudol, eu hasiantau cynllunio ac adrannau mewnol allweddol o fewn yr Awdurdod Lleol.
Sir Gaerfyrddin oedd prif fuddiolwr y Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, gyda 12 o fastiau newydd a 19 o fastiau wedi'u huwchraddio yn gwella cysylltedd i rai o'n cymunedau mwyaf gwledig.
Ar ôl gweithredu'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, mae ein timau'n cydweithio â gweithredwyr rhwydwaith symudol a rhanddeiliaid eraill i barhau i fynd i'r afael â heriau cysylltedd gwledig. Os hoffech gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni - digidol@bargenddinesigbaeabertawe.cymru.
Manteisio
-
1
Gwell signal 4GDarparu cysylltedd mawr ei angen i'n cymunedau gwledig a chynnig datrysiad band eang arall.
-
2
Seilwaith a RennirCydweithio rhwng gweithredwyr ffonau symudol, lleihau'r angen am fastiau dyblyg a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.
-
3
Diogelu at y dyfodolParatoi ardaloedd gwledig ar gyfer cyflwyno technoleg symudol fel 5G.