Trosolwg
Ariannwyd y Rhwydwaith Arloesi Digidol gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r pedwar Awdurdod Lleol yn y rhanbarth. Mae'r rhwydwaith hwn o 240+ o byrth Rhwydwaith Ardal Eang Pellgyrhaeddol (LoRaWAN) yn darparu cysylltedd i alluogi'r defnydd o dechnoleg y rhyngrwyd pethau.
Mae’r defnydd o’r mathau hyn o rwydweithiau yn cynyddu’n genedlaethol i gynorthwyo gyda’r angen cynyddol i ddefnyddio data i lywio penderfyniadau a darparu gwasanaethau i’r eithaf, gan gynorthwyo gyda thrawsnewid digidol y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn y dyfodol.
Mae'r dechnoleg hon yn darparu cysylltedd di-wifr ar gyfer ystod o atebion IoT (y Rhyngrwyd Pethau neu rwydwaith o ddyfeisiau cysylltedd).
Mae'r synwyryddion IoT cost isel sy'n cael eu pweru gan fatri, ynni'r haul neu wres yn gweithio gyda'r porth i ganiatáu casglu a monitro ystod eang o ddata o bell, a all ddarparu mewnwelediad i lywio'n well y gwaith ymchwil a'r datblygiad sy'n cael ei wneud o ran y dechnoleg, gyda'r nod o ddatblygu atebion tymor hir.
Mae’r Rhwydwaith Arloesi Digidol yn cael ei ddefnyddio’n bennaf gan y sector cyhoeddus i alluogi ei ddefnydd o synwyryddion IoT i hwyluso’r achosion defnydd canlynol:
- Monitro’r ceir sy’n cyrraedd ac yn gadael meysydd parcio i hysbysu defnyddwyr am y lleoedd sydd ar gael / pan fyddant yn llawn.
- Monitro nifer yr ymwelwyr â chanol trefi ar draws y rhanbarth a rhannu data â busnesau lleol i lywio penderfyniadau busnes allweddol.
- Monitro amgylcheddol.
- Monitro tymheredd a lleithder mewn adeiladau sector cyhoeddus, yn enwedig ysgolion.
- Rheoli gwastraff, er enghraifft, defnyddio synwyryddion bin i benderfynu pan fyddant yn llawn a defnyddio'r data hwn i lywio llwybrau clirio gwastraff a pha mor aml y cânt eu casglu.
- Lladrata ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parciau a mannau problemus eraill.
- Diogelwch dŵr – gosod synwyryddion ar fwiau achub yn Llyn Llech Owain (Sir Gaerfyrddin) i hysbysu'r tîm gweithrediadau pan gânt eu defnyddio.
Mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, mae'r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cytuno i gynnal un o'r pyrth yn ei safle 700 hectar ger Onllwyn.
Gellir olrhain senarios profi fel llifogydd, ymsuddiant a monitro'r tymheredd i sicrhau bod gwasanaethau'r rheilffyrdd yn gweithio'n fwy cynaliadwy a fforddiadwy, gan eu gwneud yn haws i ddefnyddwyr ac yn fwy ecogyfeillgar.
Gellir gweld lleoliadau cyfredol, byw ar unrhyw adeg ar Fap Porth LoRaWAN gyda mynediad ar gael yn rhwydd trwy weinydd Rhwydwaith LoRaWAN i weld y raddfa, The Things Industries neu The Things Network (ar gyfer busnesau newydd).
Os hoffech wybod mwy am y Rhwydwaith Arloesi Digidol, cysylltwch â'r tîm rhanbarthol.