Trosolwg
Gall y Gronfa Arloesi 5G ddarparu cyllid grant o hyd at £1.6 miliwn i dalu'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig ag adeiladu 5G a rhwydweithiau di-wifr uwch. Bydd y rhwydweithiau hyn yn galluogi prosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'u partneriaid i sefydlu meinciau arbrofi sy'n cyflwyno atebion uwch ac achosion defnydd yn y sectorau canlynol:
- Iechyd a Gwyddorau Bywyd
- Y Diwydiannau Creadigol a'r Economi Ymwelwyr
- Trafnidiaeth a Logisteg
- Technolegau Amaethyddol
- Ynni
- Gweithgynhyrchu Clyfar
- Sgiliau
Gall 5G a rhwydweithiau di-wifr uwch fod yn alluogwyr arloesi pwerus, gan drawsnewid diwydiannau a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau. Trwy sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth trwy ein Cronfa Arloesi 5G a meithrin dysgu ar y cyd, gallwn gyflymu datblygiadau technolegol, ystyried achosion defnydd newydd a hybu cynnydd economaidd a chymdeithasol. Bydd yr ymdrechion hyn yn sicrhau bod potensial llawn y seilwaith sy'n cael ei ariannu drwy'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn cael ei wireddu, gan baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cysylltiedig, effeithlon a theg.
Amcanion y Prosiect
-
1
Signal 5GCyflymu a gwella signal 5G ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
-
2
Hybu arloeseddTrwy fabwysiadau cymwysiadau ac atebion digidol uwch yn gyflym.
-
3
Rhanbarth clyfarAnnog buddsoddiad cynnar mewn technolegau a gwasanaethau newydd a meithrin datblygiad a mabwysiadu technoleg 5G yn y rhanbarth.