Trosolwg
Mae celloedd bach yn yr awyr agored yn gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd trefol prysur lle gall nifer y bobl a phethau fel synwyryddion roi gormod o alw ar y mast agosaf. Yn aml, gellir ychwanegu'r celloedd at asedau stryd presennol fel polion lampau. Mae lletya offer ar asedau presennol yn gallu cyflymu'r broses gyflwyno, gyda llai o darfu a llai o annibendod ar y stryd.
Mae'r dechnoleg hon yn gwella signal ac yn lleihau tagfeydd ar y rhwydwaith. Yn wir, mae'r ychydig iawn o oedi yn galluogi technoleg sy'n gofyn am wybodaeth amser real. Disgwylir i 5G gael effaith sylweddol ar yr economi ddigidol, arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg. Mae celloedd bach 5G yn rhan hanfodol o rwydwaith symudol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r defnydd o asedau a thir y sector cyhoeddus yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyflwyno rhwydweithiau di-wifr uwch, gan gynnwys rhwydweithiau lletya niwtral, yn enwedig lle mae angen capasiti ychwanegol ar gyfer gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae galw mawr.
Roedd Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhan o Grŵp Mabwysiadwyr Cynnar DCIA Cenedlaethol Llywodraeth y DU. Gweithiodd y Grŵp Mabwysiadwyr Cynnar gyda phrosiectau peilot i nodi ffyrdd o'i gwneud yn haws i berchnogion asedau'r sector cyhoeddus a chwmnïau telathrebu weithio gyda'i gilydd. Un o allbynnau allweddol y rhaglen hon oedd dogfennaeth a phrosesau safonol a gwersi a ddysgwyd gan nifer o Awdurdodau Lleol ledled y DU.
Roedd Virgin Media O2, mewn partneriaeth â Freshwave, wedi nodi Abertawe fel un o nifer o leoliadau ar eu cam nesaf dangosol o gyflwyno celloedd bach yn yr awyr agored ledled y DU
Gweithiodd Laura Jenkins, Rheolwr Cydberthnasau Cysylltedd Digidol ar gyfer Cyngor Abertawe, yn agos gyda Freshwave, Virgin Media O2 a sawl adran fewnol allweddol i sefydlu cytundeb mynediad agored anghyfyngol i allu defnyddio asedau sy'n eiddo i'r cyngor i letya celloedd bach. Gall y celloedd bach hyn o bosibl gael eu defnyddio gan bob un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol, a fydd yn gwella profiad y defnyddiwr i bawb ac yn lleihau faint o seilwaith y mae ei angen.
Mae'r gwaith cychwynnol hwn yn Abertawe wedi rhoi mewnwelediadau gwerthfawr o bob safbwynt. Rydym wedi nodi ac wedi mynd i'r afael â sawl her, gan arwain at well prosesau mewnol. Mae'r gwersi hyn a ddysgwyd yn cael eu rhannu â phob Awdurdod Lleol yn ein rhanbarth i sicrhau dull gweithredu cyson.
Os hoffech gael gwybod rhagor am hyn, cysylltwch â ni - digidol@bargenddinesigbaeabertawe.cymru.
Manteision
-
1
CydweithioTrwy gael cytundebau a phrosesau mynediad agored ar waith, rydym yn barod ac yn gallu gweithio gyda rhwydweithiau lletya niwtral a gweithredwyr rhwydwaith symudol.
-
2
Llai o seilwaithBydd defnyddio asedau presennol i letya celloedd bach yn lleihau annibendod ar y stryd.
-
3
Profiad gwell i ddefnyddwyrGwella cysylltedd ffôn symudol yn rhannau prysuraf Abertawe. Hoffem weld hyn yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill lle mae gennym broblemau hysbys e.e. Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot lle mae twristiaeth yn effeithio ar gysylltedd.