Gan helpu i fynd i'r afael â thagfeydd rhwydwaith, mae'r safleoedd celloedd bach wedi'u cyflwyno i roi hwb i gapasiti'r rhwydwaith pan fo angen, fel y bydd pobl yn gallu defnyddio eu ffonau i wneud galwadau, anfon negeseuon neu fynd ar-lein pan fydd mwy o bobl yng nghanol y ddinas ar gyfer digwyddiadau fel gorymdaith y Nadolig a Sioe Awyr Cymru.
Mae'r prosiect, sy'n cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Freshwave a Virgin Media O2, yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau bod Abertawe yn ddinas ddigidol flaenllaw.Mae wedi cael ei arwain gan Hyrwyddwyr Digidol y Cyngor, sydd wedi gweithio'n agos gyda Freshwave a Virgin Media O2 ac adrannau eraill y cyngor i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fusnesau ac ymwelwyr â chanol y ddinas tra oedd y gwaith yn cael ei wneud.
Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n anelu at wella cysylltedd digidol ledled de-orllewin Cymru.Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae pob un ohonon ni wedi bod mewn sefyllfaoedd lle rydyn ni mewn lleoedd prysur a methu'n lân ag anfon negeseuon, gwneud galwadau neu ddefnyddio'r rhyngrwyd ar ein ffonau gan fod gormod o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd. Nod y prosiect hwn yw helpu i fynd i'r afael â'r mater hwnnw i ddiwallu anghenion trigolion a busnesau. Mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod Abertawe yn ddinas ddatblygedig yn ddigidol a fydd yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol, ynghyd â chefnogi arloesedd. Rydyn ni’n ddiolchgar i'n partneriaid, FreshWave a Virgin Media O2, ac am y gefnogaeth gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.Cynghorydd Rob Stewart, Cyngor Abertawe
Dywedodd Neil Barnes, Pennaeth Partneriaethau Freshwave:
Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi chwarae rhan yn y prosiect trawsnewidiol hwn. Bydd y gwell cysylltedd symudol, sy'n deillio o fuddsoddiad Virgin Media O2, yn dod â nifer o fanteision i'r gymuned ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiadau technolegol yn y dyfodol.Neil Barnes, Freshwave
Dywedodd Pete Hollebon, Uwch-reolwr Cynllunio - Celloedd Bach yn yr Awyr Agored, Virgin Media O2:
Mae celloedd bach yn ffordd effeithiol o wella lled band rhwydwaith lleol ac yn chwarae rhan bwysig i'n galluogi i gadw i fyny â'r galw cynyddol gan gwsmeriaid. Bydd y safleoedd newydd hyn yn gwella dibynadwyedd ein rhwydwaith yn Abertawe ac yn darparu profiad gwell i gwsmeriaid. Byddwn yn buddsoddi £700m yn ein rhwydwaith symudol eleni drwy ein Cynllun Trawsnewid Symudol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad rhwydwaith eithriadol yn gyson ble bynnag y maen nhw a hyd yn oed ar yr adegau prysuraf.Pete Hollebon, Virgin Media O2
Roedd y prosiect yn dilyn llofnodi cytundeb mynediad agored, gan ganiatáu i weithredwyr rhwydweithiau symudol ddefnyddio a rhannu asedau sy'n eiddo i'r cyngor ar gyfer eu seilwaith digidol. Dyma'r cytundeb cyntaf o'i fath yn Abertawe ac ardal ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei chyfanrwydd.
Cysylltwch â'ch Hyrwyddwyr Digidol lleol i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu i wybod sut i gael gwell cysylltiad i'ch ardal.