Yn rhan o raglen seilwaith digidol £25m Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae ffrwd waith wledig bwrpasol wedi ymrwymo i ddarparu cysylltedd o ansawdd uchel â lleoedd lle byddai cost cysylltu cartrefi a busnesau fel arall yn rhy uchel i fuddsoddiad masnachol yn unig fod yn hyfyw.Byddai buddsoddi mewn band eang cyflym mewn cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn helpu i gyflwyno technoleg y Rhyngrwyd Pethau er budd busnesau, gan gynnwys ffermydd.

Byddai'r dechnoleg hon yn helpu ffermwyr i fonitro cnydau, da byw, peiriannau ac amodau amgylcheddol o bell ac mewn amser real, gan arwain o bosibl at welliant o ran penderfyniadau, effeithlonrwydd adnoddau ac arbedion cost.

Mae cefnogi mentrau fel Prosiect Gigadid Llywodraeth y DU hefyd yn elfen allweddol o ffrwd waith wledig y rhaglen seilwaith digidol. Mae hyrwyddwyr digidol lleol yn sicrhau bod cymunedau yn gwybod pryd y caiff ceisiadau am gynlluniau talebau eu derbyn.

Yn ogystal â mentrau'r Llywodraeth, mae'r rhaglen wedi datblygu'r 'Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang', a cheisir partner masnachol i adeiladu rhwydwaith sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid er mwyn gwasanaethu cymunedau gwledig sydd â chyflymder band eang o lai na 30mbps ac nad ydynt yn rhan o gynlluniau masnachol presennol nac ymyriadau fel Prosiect Gigadid.

Gyda chynnydd y Rhyngrwyd Pethau ym myd amaethyddiaeth, ynghyd â'r pwysau cynyddol i leihau gwastraff a chyrraedd nodau cynaliadwyedd, bydd mynediad at ryngrwyd cyflym yn hanfodol i gysylltu'r technolegau hyn yn hwylus.
Dywedodd Rhys Jones o Arwain DGC:

Drwy gefnogi buddsoddiad mewn cysylltedd rhwydwaith gwledig ar y cyd, bydd yn helpu i wella iechyd da byw, yn cynyddu effeithlonrwydd o ran cynhyrchu ac yn sicrhau cynaliadwyedd economaidd ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Bydd arloesi a thechnoleg yn amhrisiadwy i sicrhau enw da amaethyddiaeth Cymru yn arweinydd ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Mae cysylltedd gwledig yn hanfodol ar gyfer twf economaidd hirdymor. Pan fydd gan ardaloedd gwledig fynediad at ryngrwyd cyflym dibynadwy, mae'n agor byd o gyfleoedd ac yn grymuso cymunedau gwledig i fod yn fwy gwydn yn wyneb heriau'r dyfodol.
Rhys Jones, Arwain DGC

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol lle mae pob diwydiant, gan gynnwys amaethyddiaeth, wedi'i integreiddio'n hwylus i'r economi ddigidol, mae cysylltedd digidol gwledig yn chwarae rhan ganolog. “Mae dull rhaglen seilwaith digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe o gydweithio â'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn rhoi cefnogaeth hanfodol i sicrhau bod gan ffermwyr a chymunedau gwledig yr offer sydd eu hangen i oresgyn yr heriau o drosglwyddo i fyd sy'n fwyfwy cysylltiedig.
Cyngh. Rob Stewart, Cyngor Abertawe

Ewch i'r dudalen astudiaethau achos i wylio fideo ar bwysigrwydd seilwaith digidol gwledig a dyfodol ffermio.

I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd band eang yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â'ch Hyrwyddwyr Digidol lleol. Wedi'u hariannu gan raglen seilwaith digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'r hyrwyddwyr digidol yn parhau i gydweithio'n agos â chyflenwyr, eu partneriaid, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau bod cymunedau gwledig wedi'u cysylltu'n well.