Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llofnodi cytundeb i ganiatáu i Voneus, darparwr band eang gwledig, ddefnyddio polion goleuadau stryd y Cyngor. Bydd hyn yn galluogi Voneus i osod eu hoffer diwifr gigadid, gan wella cysylltedd digidol mewn ardaloedd gwledig.

Trwy ddefnyddio seilwaith goleuadau stryd y Cyngor, bydd Voneus yn defnyddio ei dechnoleg gigadid diwifr i ddarparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid i fwy o gartrefi a busnesau yn ein hardaloedd gwledig. Mae'r dull arloesol hwn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ac effeithlonrwydd wrth ddarparu band eang cyflym i ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol yn draddodiadol.

Er mwyn cyflawni hyn bydd Voneus yn gosod offer radio ar bolion goleuadau stryd a fydd yn anfon y signal o golofn i golofn sy'n golygu y gellir teithio pellteroedd hir i ardaloedd mwy gwledig.

Yn wahanol i ddefnyddio rhwydwaith ffibr llawn, a all ofyn am gloddio corfforol helaeth, ffosio, a chablu, gellir adeiladu'r seilwaith diwifr newydd a'i osod gyda mwy o gyflymder a llai o darfu ar y gymuned leol.

Bydd Voneus yn cynnig eu pecynnau safonol ar gyfer band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid, sydd yr un fath â'u portffolio Ffibr, gan gynnig cyflymder uchel a lled band i gwsmeriaid.

Bydd y gwaith adeiladu yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau yn ardaloedd Sanclêr a Meidrim, gan ddod â manteision uniongyrchol i'r cymunedau hyn.

Dywedodd Ilan Scorah, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio Voneus:

Mae ein partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin yn garreg filltir arwyddocaol arall i Voneus sy'n helpu cysylltedd band eang yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, lle mae cysylltedd wedi bod yn her yn aml. Mae cryfhau ein partneriaethau ag awdurdodau lleol yn helpu i arwain y ffordd ar gyfer gwell mynediad digidol yr ydym yn gwybod y gall wneud gwahaniaeth sylweddol o ran meithrin twf economaidd, gwella cyfleoedd addysgol, a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.
Ilan Scorah, Voneus

Mae gigadid diwifr yn gyflymach i'w ddefnyddio a gall gyrraedd ardaloedd lle nad yw gosod ffibr yn fasnachol ymarferol. Mae'r bartneriaeth hon gyda Voneus yn cyflwyno ateb newydd i breswylwyr gwledig, gan roi mynediad iddynt at gyflymder cyflym iawn a oedd yn anodd eu darparu o'r blaen.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans o Gyngor Sir Caerfyrddin:

Rwyf wrth fy modd o gael y cytundeb newydd hwn gyda Voneus. Mae'n gam cadarnhaol tuag at bontio'r rhaniad digidol yn ardaloedd gwledig anoddaf eu cyrraedd yn y sir. Mae meithrin perthnasoedd gwaith i wella gwasanaethau preswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn rhan annatod o'r rhanbarth ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i gydweithio â darparwyr i wella cysylltedd band eang yn ein cymunedau gwledig.
Cynghorydd Hazel Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin

Wedi'i ariannu gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'r Hyrwyddwyr Digidol o Gyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i hyrwyddo'r ethos o 'gysylltedd drwy gydweithredu' gyda'i bartneriaeth ddiweddaraf â Voneus. Trwy wella mynediad at fand eang a hyrwyddo cynhwysiant digidol, bydd y dull newydd hwn yn cyflymu'r dyheadau sydd â'r nod o fod o fudd i'r gymuned gyfan:

  • Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl
  • Rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg
  • Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb

I gael rhagor o wybodaeth ar ddatblygiadau band eang Voneus yn Sir Gaerfyrddin, ewch i'r wefan.