Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Cwrdd â'n hyrwyddwyr digidol

Mae’r Tîm Digidol Rhanbarthol yn gyfrifol am gyflawni’r Rhaglen Seilwaith Digidol a’i thair ffrwd waith, sef – Lleoedd Cysylltiedig, Gwledig a Rhwydwaith Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein buddsoddiad yn cyd-fynd ag ymyriadau fel Prosiect Gigadid a’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir ac yn eu hategu. Rydym hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â chyflenwyr i sicrhau bod ein hymagwedd yn hwyluso a lle bo'n bosibl yn cyflymu eu cyflwyniad masnachol arfaethedig yn y rhanbarth.

I gefnogi’r rhaglen ar lefel leol ac fel yr argymhellir yn Llawlyfr Chwalu’r Rhwystrau Llywodraeth y DU ar gyfer Awdurdodau Lleol ac adroddiad Chwalu Rhwystrau Llywodraeth Cymru, rydym wedi ariannu hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol.

Ein Rheolwyr Perthynas Cysylltedd Digidol yw’r pwynt cyswllt sengl ar gyfer diwydiant, y llywodraeth, ac adrannau mewnol ar gyfer popeth sy’n ymwneud â defnyddio seilwaith sefydlog a symudol yn eu sir. Mae gennym nifer o gyflenwyr sydd wrthi’n adeiladu seilwaith ar draws y rhanbarth ac mae ein timau’n cyfarfod â nhw’n rheolaidd i drafod cyflwyno’n lleol, gweithio drwy unrhyw heriau a all oedi neu effeithio ar amserlenni ar gyfer cyflawni, a darparu diweddariadau gan adrannau mewnol allweddol megis priffyrdd a chynllunio.

Mae ein Swyddogion Ymgysylltu Band eang yn gweithio gyda chymunedau a busnesau i gael band eang gwell drwy gynlluniau talebau ac ymyriadau eraill. Gallan nhw gynnig cyngor ar dechnoleg amgen ac maent wrth law i wrando ar unrhyw bryderon sydd gan gymunedau neu fusnesau. Os nad oes gennych chi fand eang boddhaol, cysylltwch â’ch tîm lleol a byddan nhw’n rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau.

Tîm Rhaglen Seilwaith Digidol Rhanbarthol

  • Bex Llewhellin
    Bex Llewhellin Rheolwr Prosiect Digidol
  • Dija Oliver
    Dija Oliver Rheolwr Prosiect Digidol
  • Gareth Thomas
    Gareth Thomas Rheolwr Prosiect Digidol
  • Amy James
    Amy James Swyddog Ymgysylltu â Busnesau a Chyfathrebu

Hyrwyddwyr Digidol Awdurdodau Lleol

  • Richard Walters
    Richard Walters Rheolwr Cydberthnasau Seilwaith Digidol
    Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • Aled Nicholas
    Aled Nicholas Swyddog Ymgysylltu Band eang
    Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • Laura Jenkins
    Laura Jenkins Rheolwr Cydberthnasau Seilwaith Digidol
    Cyngor Abertawe
  • Claire Hughes
    Claire Hughes Swyddog Ymgysylltu Band eang
    Cyngor Abertawe
  • Patrick Hannon
    Patrick Hannon Rheolwr Cydberthnasau Seilwaith Digidol
    Cyngor Sir Benfro
  • Mike Odlin
    Mike Odlin Swyddog Ymgysylltu Band eang
    Cyngor Sir Benfro
  • Mike Morris
    Mike Morris Rheolwr Cydberthnasau Seilwaith Digidol
    Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • Bethan Walilay
    Bethan Walilay Swyddog Ymgysylltu Band eang
    Cyngor Castell-nedd Port Talbot