Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Mosg Abertawe

Band eang cymunedol am ddim

Mosg Abertawe yw'r mwyaf o'i fath yng Nghymru. Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, mae'n bell o fod yn lle i addoli yn unig; mae hefyd yn ganolfan gymunedol sy'n croesawu pobl o bob cefndir.

Wedi'i leoli mewn cymuned amrywiol, mae'r mosg yn gwasanaethu fel pwynt canolog i bobl ddod at ei gilydd a derbyn cymorth ar-lein mawr ei angen.
Diolch i'r cynnig gwerth cymdeithasol gan Virgin Media O2 fel rhan o brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain, mae Mosg Abertawe yn un o wyth canolfan gymunedol yn ardal Abertawe sydd wedi derbyn cysylltiad band eang ffeibr 5 mlynedd am ddim. Gan helpu i bontio'r rhaniad digidol a sicrhau bod aelodau o'r gymuned leol, gan gynnwys y rhai sydd mwyaf agored i niwed, yn cael mynediad at gysylltedd rhyngrwyd dibynadwy.

Mae derbynfa'r mosg bellach yn gwasanaethu fel canolbwynt ar gyfer cynhwysiant digidol. Er mwyn gwneud mynediad mor syml â phosibl, mae côd QR yn cael ei arddangos yn y dderbynfa, gan ganiatáu i unrhyw un gysylltu ar unwaith heb fod angen cyfrinair.

Mae pobl yn gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau cymorth fel banciau bwyd a banciau babanod. Gall pobl ifanc sy'n mynychu dosbarthiadau Arabeg ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi eu hastudiaethau. Mae llawer o aelodau oedrannus o'r gymuned yn defnyddio'r band eang gwell i gadw mewn cysylltiad â pherthnasau.

Gyda'r band eang ffeibr newydd ar waith, mae Mosg Abertawe bellach yn datblygu gweledigaeth ddigidol i ehangu ei gynnig cymunedol ymhellach.

Mae'r mosg yn bwriadu trawsnewid ei lyfrgell bresennol yn ganolfan ddigidol, gan ddarparu mynediad am ddim i gyfrifiaduron, offer ac adnoddau ar-lein. Bydd y gofod hwn yn galluogi aelodau o'r gymuned i ysgrifennu CVs, chwilio am swyddi, a chwblhau ffurflenni ar-lein, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau digidol hanfodol a chael mynediad at gyfleoedd newydd.

Yn ogystal, nod Mosg Abertawe yw cyflogi staff ymroddedig sy'n gallu gweithio'n agos gydag unigolion oedrannus ac aelodau o'r gymuned sydd heb sgiliau digidol, gan eu cefnogi i fagu hyder a chynefino â thechnoleg ddigidol.

Meddai Hasan Miah, Is-gadeirydd Ymddiriedolwr y mosg:

Ein nod yw helpu cymaint â phosibl o bobl yn y gymuned nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar-lein. Mae cael y band eang ffeibr yn rhodd i ni am y 5 mlynedd nesaf wedi rhoi cyfle i ni wella ein gwasanaethau cymunedol a chynllunio cynigion mwy a gwell, nad oedden ni’n gallu eu hystyried o'r blaen. Ein nod yw mynd â'n gwasanaethau digidol i'r lefel nesaf. Trwy ddatblygu canolfan ddigidol gymunedol, gallwn helpu mwy o bobl i oresgyn rhwystrau i fynediad ar-lein a sicrhau bod pawb yn elwa o'r cyfleoedd y mae'r rhyngrwyd yn eu darparu.
Hasan Miah, Mosg Abertawe

Gyda'r gefnogaeth barhaus hon, mae Mosg Abertawe yn gobeithio gwneud ei wasanaethau digidol yn offeryn hanfodol ar gyfer lleihau allgáu digidol a grymuso y gymuned am flynyddoedd i ddod.

Gwerth cymdeithasol mewn partneriaeth â

Rydym yn defnyddio cwcis I wella eich profiad, personoleiddio cynnwys, a dadansoddi traffig gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.