Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Llyfrgell Taibach

Band eang cymunedol am ddim

Mae llyfrgelloedd yn rhan bwysig o gymunedau lleol, gan gynnig adnoddau, cyfleoedd a llefydd i gysylltu ag eraill.

Pan oedd perygl y byddai Llyfrgell Taibach yn cau, camodd grŵp o bobl leol angerddol i'w hachub. Ym mis Mai 2014, daeth y llyfrgell yn elusen, wedi'i chynnal yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr a oedd yn benderfynol o'i chadw ar agor. Ers hynny, mae'r tîm wedi gweithio'n ddiflino i wella'r llyfrgell a sicrhau ei bod yn parhau ar agor i bawb.

Nawr, 11 mlynedd yn ddiweddarach, mae Llyfrgell Gymunedol Taibach yn ffynnu. Gyda chlybiau, grwpiau, ac ystod eang o wasanaethau, mae'r lle unwaith eto yn enaid y gymuned.

Fodd bynnag, un o'r heriau mwyaf bob amser oedd cysylltedd rhyngrwyd gwael. Am flynyddoedd, roedd hyn yn dal y llyfrgell yn ôl gan gyfyngu ar ei gallu i gynnig cymorth digidol, gwneud taliadau yn annibynadwy, atal teledu cylch cyfyng rhag cael ei gysylltu'n iawn, a gorfodi staff i gwblhau llawer o dasgau â llaw.

Roedd Llyfrgell Gymunedol Taibach yn un o wyth sefydliad yng Nghastell-nedd Port Talbot a gafodd fand eang ffeibr am ddim am 5 mlynedd gan Virgin Media O2, fel rhan o'r cynnig gwerth cymdeithasol gan brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain.

Taibach Library

Gyda band eang dibynadwy ar waith, gall y llyfrgell bellach adeiladu ar ei rhaglen boblogaidd o weithgareddau, o ymchwilio i hanes teulu i sesiynau cymorth TG ac ychwanegu mwy o elfennau digidol i gefnogi pobl leol. Mae cael cysylltiad rhyngrwyd cyflym, dibynadwy wedi arwain at lefel newydd o ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer Llyfrgell Gymunedol Taibach, fel yr eglura Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Luke Coles:

"Mae cael y cysylltiad rhyngrwyd hwn wedi newid pethau i'r llyfrgell. Gall pobl nawr gysylltu â chysylltiad Wi-Fi cyflym, dibynadwy heb orfod aros cyfnodau hir i dudalennau lwytho. Rydym hefyd yn gallu cynnal sesiynau galw heibio wythnosol i helpu pobl i gael y gorau o'u dyfeisiau eu hunain."

"Rydyn ni'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros yr 11 mlynedd diwethaf. O fod o dan fygythiad o gau, rydym wedi sicrhau bod y llyfrgell yn gyrchfan gwerthfawr i'r gymuned. Bellach, gyda band eang cyflymach, gallwn ni weld y llyfrgell yn mynd o nerth i nerth."

Mae'r uwchraddiad hwn nid yn unig wedi gwella gwasanaethau i'r cyhoedd, mae hefyd wedi newid y ffordd y mae'r llyfrgell yn cael ei chynnal.

Dywedodd Susan Grundy, Cydgysylltydd y Llyfrgell:

 

Mae band eang gwell wedi trawsnewid ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae ein til bellach wedi'i gysylltu â'r Wi-Fi, felly nid yw taliadau â charden bellach yn broblem. Mae gennym hefyd fwy o ddiogelwch, gan y gellir cyrchu ein system teledu cylch cyfyng o bell trwy ap, gan ein galluogi i ymateb yn gyflym i unrhyw risgiau. Mae ein holl gyfrifyddu, gwirio stoc a phrisio bellach yn cael ei wneud ar-lein, gan arbed oriau o waith llaw a rhyddhau mwy o amser i gefnogi ein hymwelwyr.
Susan Grundy, Llyfrgell Taibach

Gwerth cymdeithasol mewn partneriaeth â

Rydym yn defnyddio cwcis I wella eich profiad, personoleiddio cynnwys, a dadansoddi traffig gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.