Mae pum mlynedd o fand eang ffeibr am ddim yn helpu Hwb Cymunedol Fi, Fy hun a Fi, i ehangu ei gefnogaeth gynhwysol i bobl hŷn, unigolion ynysig, a'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol, gan sicrhau nad yw mynediad digidol bellach yn rhwystr i gysylltiad, llesiant neu annibyniaeth.
Mae'r Hwb cymunedol yn Llansawel yng Nghastell-nedd ac mae'n cynnig lle diogel a chroesawgar lle gall pobl fagu hyder, lleihau unigrwydd a chael mynediad at gymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r fenter yn canolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n byw gyda dementia, sy'n profi ynysu cymdeithasol neu'n sy'n wynebu tlodi digidol.
Hyd yn hyn, mae mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd wedi cyfyngu ar allu'r Hwb i gynnig gwasanaethau digidol, o apwyntiadau meddygon teulu ar-lein i sesiynau llesiant o bell. Mae hefyd wedi bod yn anodd i aelodau o'r gymuned gwblhau tasgau hanfodol fel ceisiadau am fudd-daliadau neu gael mynediad at wasanaethau awdurdodau lleol. Dywedodd Jenn Williams, Rheolwr Fi, Fy Hun a Fi:
Mae band eang dibynadwy yn trawsnewid yr hyn y gallwn ei gynnig. Mae'n golygu y gall pobl ddod i mewn, cael help gyda ffurflenni ar-lein, dysgu sut i ddefnyddio eu dyfeisiau, a theimlo'n fwy cysylltiedig â'r byd o'u cwmpas. Mae'n achubiaeth i lawer yn ein cymuned.Jenn Williams, Me, Myself & I Community Hub
Gyda band eang ffeibr bellach ar waith, bydd yr hwb yn lansio Sesiwn Galw Heibio Digidol, lle gall unigolion ddefnyddio dyfeisiau sy’n cael rhannu i gwblhau tasgau hanfodol ar-lein. Bydd y tîm hefyd yn cynnig sesiynau sgiliau digidol 1-i-1 ac ar gyfer grwpiau bach. Bydd oedolion hŷn yn cael eu cefnogi i ddatblygu annibyniaeth ddigidol, dysgu sgiliau fel galwadau fideo, siopa ar-lein a seiberddiogelwch sylfaenol.
Bydd y cysylltiad band eang yn galluogi'r ganolfan i ddarparu gwasanaethau cyfunol, fel gweithgareddau llesiant o bell a mynediad digidol i wasanaethau iechyd a chyngor. Mae hefyd yn caniatáu i'r tîm gyflwyno sesiynau ar gyfer y gymuned leol, gofalwyr a theuluoedd ar sut i ddefnyddio dyfeisiau fel iPads, clociau siarad, clychau drws a seinyddion clyfar fel Alexa, sydd wedi'u darparu i bobl mewn partneriaeth â’r Tîm Ymgysylltu Digidol a Thechnoleg yn Ysbyty Cimla.
Mae'r Hwb ar agor pum diwrnod yr wythnos, gyda sesiynau gyda'r nos a'r penwythnos ar gael yn dibynnu ar gapasiti gwirfoddolwyr. Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio i gefnogi:
• Oedolion hŷn (60 oed a hŷn)
• Teuluoedd, gofalwyr, a phobl ag anableddau
• Unigolion sy'n profi caledi economaidd neu allgáu digidol
Yn y lle cyntaf, mae'r Hwb yn disgwyl cefnogi 10-20 o unigolion y mis, gyda chynlluniau i dyfu trwy atgyfeiriadau gan asiantaethau lleol, digwyddiadau allgymorth, a phartneriaethau â grwpiau cymunedol eraill.
Mae'r cysylltedd hwn wedi'i ddarparu gan Virgin Media O2 fel rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol y cwmni fel partner cyflenwi ar Brosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain y Rhaglen Seilwaith Digidol
Trwy bontio'r rhaniad digidol, mae'r Hwb yn helpu unigolion i gysylltu, dysgu a ffynnu - gan adeiladu cymuned gryfach, fwy gwydn.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'r Hwb Cymunedol Fi, Fy Hun a Fi yn ei wneud ac i gysylltu â nhw ewch i'w gwefan.