Mae cymdeithas yn symud ar gyflymder rhyfeddol o ran technoleg. Mae cael band eang bellach yn cael ei ystyried fel pedwerydd cyfleustod a gyda mwy o wasanaethau hanfodol yn newid i ddigidol, gall ymdopi fod yn anodd i lawer o bobl oedrannus.
Mae apiau a llwyfannau ar-lein yn rhan annatod o fywyd bob dydd, o archebu apwyntiadau iechyd, bancio ar-lein, siopa, adloniant a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Fodd bynnag, i berson sydd wedi byw yn draddodiadol heb bresenoldeb digidol a heb fawr o fynediad at ddyfeisiau i fynd ar-lein, gall hyn fod yn rhwystredig a’u hynysu.
Roedd Age Cymru Dyfed yn falch iawn o dderbyn y grant, sy'n cael ei ddefnyddio nawr i gynnal sesiynau cynhwysiant digidol i drigolion Sir Gaerfyrddin sydd dros 50 oed. Dywedodd Peter McIlroy, Cydlynydd Gwirfoddolwyr/Rheolwr Gwasanaethau Technegol Age Cymru:
Diolch i'r cyllid a dderbyniwyd, mae ein gwirfoddolwyr digidol wedi gallu cynnig cefnogaeth werthfawr i unigolion ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r gefnogaeth hon wedi cwmpasu ystod eang o anghenion digidol, gan gynnwys cymorth gyda thabledi, adnabod ac osgoi sgamiau, lawrlwytho a defnyddio apiau, sefydlu seinyddion clyfar, siopa ar-lein, a chanllawiau digidol cyffredinol.Peter McIlroy, Age Cymru Dyfed
Mae'r grant eisoes wedi helpu 27 o unigolion sy'n byw gyda chyflyrau iechyd amrywiol, fel nam ar y golwg, arthritis, dementia, ac effeithiau strôc ac maent wedi'u teilwra i'w hanghenion unigol, gan sicrhau dull personol a hygyrch.
Ychwanegodd Peter:
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogaeth gynhwysol, rydym hefyd wedi buddsoddi mewn adnoddau i wella hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys prynu pensiliau stylus i gynorthwyo'r rhai sydd â heriau deheurwydd wrth ddefnyddio tabledi, yn ogystal â chlustffonau realiti rhithwir i wella ymgysylltiad ac ysgogi’r cof a sgwrs.Peter McIlroy, Age Cymru Dyfed
Mae darparu sgiliau digidol i bobl er mwyn cysylltu'n ddiogel â'r byd ar-lein yn rhywbeth y mae Age Cymru Dyfed wedi ymrwymo iddo. Mae'n helpu i atal pobl rhag colli cyfleoedd, yn arbed arian, ac, yn bwysicaf oll, yn eu hatal rhag teimlo'n ynysig.
Trwy'r prosiect hwn, gall pobl gymwys sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin gael mynediad at ddyfeisiau sy’n cael eu benthyg a derbyn cymorth sgiliau pwrpasol sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion personol ar-lein eu hunain.
Derbyniodd menyw 60 oed, sy'n dioddef o Ddementia, y gefnogaeth hon yn ddiweddar. Yn ystod ei sesiwn, cafodd gyfle i archwilio yn rhithwir dirnodau byd-eang eiconig fel Teml Petra yn yr Iorddonen a'r Deml Mwnci yn Kathmandu. Gwyliodd hefyd fideo cerddoriaeth Farewell Yellow Brick Road Elton John drwy ddefnyddio technoleg ymgolli. Disgrifiodd y profiad fel:
"Anhygoel ac anghredadwy!"
Gan ddweud ei bod wedi mwynhau gweld llefydd pell a bod y fideo cerddoriaeth wedi bod yn ysbrydoledig.