1,533
safleoedd cymwys65%
Cwmpas rhanbarthol
£9.87m
Cyllid y Fargen Ddinesig
Trosolwg
Mae'r tirlun digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi esblygu'r sylweddol ers lansiad y Rhaglen Seilwaith Digidol yn 2021. Rhwng 2021 a 2024, denodd y rhanbarth amcangyfrif o £107.7 miliwn mewn buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a phreifat i wella cysylltedd symudol a sefydlog.
Gan fod cynlluniau wedi'u cadarnhau ar gyfer Prosiect Gigabit, ac mae'r broses o'i gyflwyno'n fasnachol yn parhau'n gyflym, mae mynediad at ryngrwyd cyflym yn gwella'n gyson. Fodd bynnag, mae llawer o gartrefi a busnesau—yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro—yn dal i brofi band eang gwael oherwydd y gost uchel o gysylltu safleoedd anodd eu cyrraedd.
Mae'r Prosiect Mewnlenwi Band Eang Gwell wedi'i gynllunio i gau'r bylchau hyn drwy dargedu safleoedd ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-neg-nedd Port Talbot:
- Sydd heb eu cynnwys mewn cynlluniau cyflwyno masnachol (h.y. “eiddo gwyn" fel y'i diffinnir gan Adolygiad Marchnad Agored Treigl Cenedlaethol Building Digital UK Medi 2024).
- Nid ydynt wedi'u cwmptasu gan ymyriadau presennol fel Prosiect Gigabit neu gynlluniau talebau
- Yn cael cyflymder band eang sy'n llai na 30 mbps
Drwy ddadansoddiad manwl o ddata gan Llywodraeth y DU (trwy Gov.uk), Ofcom ac offer band eang sydd ar gael ar-lein, rydym wedi nodi 2,364 o safleoedd ar draws y rhanbarth sy'n bodloni'r meini prawf hyn.
Yn dilyn proses gaffael gystadleuol, dyfarnwyd y contract i BT, a fydd yn cyflawni'r prosiect mewn partneriaeth ag Openreach. Bydd eu rhwydwaith ffeibr llawn arfaethedig yn cysylltu 1,533 o safleoedd cymwys, gan wella cysylltedd ar gyfer 65% o gartrefi a busnesau mwyaf gwael y rhanbarth. Bydd 256 o safleoedd ychwanegol hefyd yn elwa o fand eang gwell fel rhan o gwmpas estynedig y prosiect.
Cyflwyno'r prosiect
Bydd y cyflwyniad yn digwydd mewn chwe cham ar draws y pedwar awdurdod lleol, rhwng mis Mai 2025 a 31 Mawrth 2027. Disgwylir i'r 220 safle cyntaf gael eu cysylltu erbyn Rhagfyr 2025.
Edrych i’r Dyfodol
Er bod y prosiect hwn yn garreg filltir arwyddocaol, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Mae ein timau'n parhau i fonitro argaeledd band eang ar lefel safle i nodi bylchau sy'n weddill. Mae'r data hwn yn llunio ymyriadau yn y dyfodol, gan gynnwys trefniadau yn ôl y gofyn dyfodol posibl o dan Brosiect Gigabit a menter Llywodraeth Cymru "Ymestyn Band Eang Cyflym yng Nghymru.
A hoffech gael gwybod mwy?
Cysylltwch â Dija Oliver i gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Mewnlenwi Band Eang Gwell.
Amcanion y Prosiect
-
1
Mynd i’r afael â chysylltedd gwaelMynd i’r afael â chysylltedd gwael - Mynd i’r afael â chysylltedd gwael mewn ardaloedd lle mae methiant y farchnad yn parhau mewn modd pragmatig, amserol ac effeithiol i sicrhau nad yw trigolion a busnesau yn cael eu gadael ar ôl.
-
2
Gwella cynhwysiant digidolGwella cynhwysiant digidol - Gwella cynhwysiant digidol, galluogi mynediad cyfartal at y buddion cymdeithasol ac economaidd y mae gwell cysylltedd yn eu darparu.
-
3
Cyflymu'r gwaith o ehangu rhwydwaithCyflymu'r gwaith o ehangu rhwydwaith - Hwyluso'r farchnad i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau masnachol eu hunain. Cyflymu’r broses o gyflwyno seilwaith band eang yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
-
4
Wedi'i alinio'n strategolWedi'i alinio'n strategol - Ategu a chefnogi'r gwaith o gyflawni ymyriadau presennol ac arfaethedig Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.